Clefyd cardiofasgwlar (Llun: Wikipedia)
Mae gan hyd at 620,000 o bobol yng ngwledydd Prydain enyn diffygiol sy’n golygu eu bod nhw mewn perygl o ddioddef o glefyd y galon, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon.
Yn ôl yr elusen, dyw’r rhan fwyaf o bobol ddim yn ymwybodol fod ganddyn nhw’r genyn, sy’n golygu eu bod nhw’n wynebu’r risg o glefyd y galon, trawiad neu ataliad ar y galon.
Mae ffigurau’r Sefydliad 100,000 yn uwch nag amcangyfrifon blaenorol, ond maen nhw’n dweud y gallai’r ffigwr fod yn uwch fyth o ystyried achosion lle na fu diagnosis a genynau eraill nad ydyn nhw wedi cael eu hadnabod hyd yn hyn.
Maen nhw’n rhybuddio y gall cyflyrau sy’n cael eu hetifeddu effeithio ar bobol o bob oed, a bod gan blant debygolrwydd o 50% o etifeddu’r gennyn gan riant sy’n dioddef o afiechyd y galon.
Mae 12 o bobol o dan 35 oed yn marw bob wythnos o afiechyd y galon.
‘Marwol’
Yn ôl cyfarwyddwr meddygol Sefydliad Prydeinig y Galon, yr Athro Syr Nilesh Samani, gall afiechyd y galon fod yn farwol oni bai ei fod yn cael ei adnabod.
“Y realiti yw fod cannoedd o filoedd o bobol yng ngwledydd Prydain nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod nhw mewn perygl o farw’n sydyn.
“Os nad ydyn nhw’n cael eu hadnabod na’u trin, gall cyflyrau’r galon sy’n cael eu hetifeddu fod yn farwol ac maen nhw’n parhau i ddinistrio teuluoedd, yn aml drwy gymryd anwyliaid heb rybudd.” Ychwanegodd bod “tipyn i’w wneud o hyd” i ddatrys y sefyllfa.
Dydi’r Sefydliad ddim yn argymell sgrinio eang ar gyfer cyflyrau genetig, ond maen nhw’n dweud y dylai pobol gael profion os ydyn nhw’n gwybod fod afiechyd y galon yn y teulu.