Myfyrwyr yn graddio (Llun: PA)
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud y gallai hawliau newydd i fyfyrwyr prifysgolion a cholegau fod yn ‘gam ymlaen’, a hynny yn dilyn pleidlais i’w cymeradwyo yn y Cynulliad ddydd Mawrth.
Mae gwleidyddion Bae Caerdydd wedi cymeradwyo dyletswyddau iaith newydd ar gyfer colegau a phrifysgolion i ddarparu gwasanaethau drwy’r Gymraeg, sy’n cynnwys:
- hawl myfyrwyr i gyfweliadau derbyn a chyfarfodydd Cymraeg;
- llety Cymraeg;
- mewnrwyd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg;
- tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
- sefyll arholiadau ac asesiadau yn Gymraeg
- gwasanaeth cwnsela a chymorth iechyd meddwl Cymraeg
- gweld a chlywed y Gymraeg mewn seremonïau graddio
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio bod drafftio gwael gan weision sifil y Llywodraeth yn peryglu creu cymhlethdodau diangen.
‘Cam ymlaen’
“Er nad yw’r Safonau hyn yn berffaith, maen nhw’n gam ymlaen, does dim amheuaeth am hynny,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y Gymdeithas. “Rydym yn falch bod y pwyso wedi dwyn ffrwyth o ran cryfhau hawliau myfyrwyr, fel yr hawl i lety Cymraeg a’r hawl i diwtor personol Cymraeg.
“Fodd bynnag, mae pryderon gyda ni o hyd am y ffordd mae gweision sifil wedi eu drafftio gan adael mannau gwan diangen. Gobeithio y bydd bwriad y Llywodraeth i gryfhau Mesur y Gymraeg yn gyfle i’r gwasanaeth sifil a’r Llywodraeth gymryd cam yn ôl a llunio deddfwriaeth iaith sy’n rhoi pobol Cymru a’r Gymraeg yn ganolbwynt iddo – yn hytrach nag ochri â chyrff mawr.
“Er bod Safonau’r Gymraeg yn symlach na’r hen gyfundrefn o gynlluniau iaith – yn sicr o safbwynt unigolyn sy’n cwyno – mae lle i wella. Un ffordd o sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau yw gosod hawliau cyffredinol ar wyneb y ddeddfwriaeth a fydd yn adeiladu ar y Safonau. Dyna sydd angen ei wneud er mwyn creu Mesur sy’n symlach i’r cyhoedd ei ddeall.”