Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod hi’n “warthus” bod yn rhaid i gleifion aros dwy flynedd am lawdriniaeth ar eu cluniau yng ngogledd Cymru.
Mae cleifion yn gorfod aros 112 wythnos am y llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, pum gwaith yn hwy na tharged Llywodraeth Cymru o 26 wythnos.
Yn ôl ystadegau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mewn achosion o gluniau newydd y mae’r gwahaniaeth mwya’ yn y ffordd y mae gwasanaethau Cymru a Lloegr yn perfformio.
Rhaid aros, ar gyfartaledd, 76 diwrnod ar gyfer y llawdriniaeth yn Lloegr… tra yng Nghymru mae’r cyfnod yn hwy, yn 226 diwrnod, ar gyfartaledd.
“Haeddu gwell”
“Mae pobol gogledd Cymru yn haeddu gwell,” meddai Darren Millar, Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd.
“Mae’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr esbonio sut maen nhw’n bwriadu lleihau’r amserau aros yma.”