Jo Stevens
Mae Ysgrifennydd Cysgodol Cymru wedi ymddiswyddo o fainc flaen yr wrthblaid yn San Steffan, mewn protest yn erbyn penderfyniad Jeremy Corbyn i orfodi Aelodau Seneddol Llafur i gefnogi Mesur y Llywodraeth ar danio Erthygl 50.

Jo Stevens, yr Aelod Seneddol Llafur tros Ganol Caerdydd, yw’r aelod cyntaf o gabinet Jeremy Corbyn i ymddiswyddo dros y mater.

Mae nifer yn y blaid yn anhapus bod ei harweinydd wedi gorfodi chwip tair llinell ar ei Aelodau Seneddol i gefnogi’r Mesur, fydd yn galluogi Theresa May i danio Erthygl 50.

Mae’r gweinidog cysgodol dros addysg, Tulip Siddiq, wedi ymddiswyddo hefyd, tra bod dau chwip, sydd i fod rheoli disgyblaeth yn y blaid, wedi awgrymu y gallan nhw wrthryfela a chymryd y risg o gael eu diswyddo.

“Allanfa milain”

“Mae Theresa May bellach yn arwain ein gwlad tuag at allanfa milain gyda’r niwed fydd yn cael ei greu yn mynd at y bobol a’r cymunedau rydym yn eu cynrychioli,” meddai Jo Stevens.

Mewn ymateb i’w hymddiswyddiad, dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:

“Mae ymdrech anniben Llafur fel gwrthblaid wedi rhoi siec wag i Theresa May ar Brexit. Mae ymddiswyddiad Jo Stevens heddiw yn gyfaddefiad nad oes modd perswadio Jeremy Corbyn i sefyll mewn gwir wrthwynebiad i’r llywodraeth Brexit Geidwadol hon.

“Y Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig blaid sydd yn glir yn erbyn gadael y farchnad sengl, ac yn cynnig refferendwm ar dermau unrhyw ddêl sy’n cymryd ni allan o’r Undeb Ewropeaidd.”