Traean yn Sbaen.
Mae tua 900,000 o bobol gwledydd Prydain yn byw yng ngwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl arbenigwyr ystadegau.

Defnyddiodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ffigurau o 2010 a 2011 er mwyn darganfod y nifer o ddinasyddion oedd wedi byw am o leiaf blwyddyn mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r nifer wedi ei selio ar ddinasyddiaeth yn hytrach na man geni sydd ac mae’r ffigwr ychydig yn is na’r ffigwr o 1.2 miliwn cafodd ei amcangyfrif yn y gorffennol.

Prydeinwyr tramor

Sbaen sy’n gartref i’r nifer uchaf o ddinasyddion Prydeinig yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd gyda 308,805 yn byw yno, traean ohonyn nhw dros 65.

Ffrainc sydd â’r ail nifer uchaf o Brydeinwyr, yna’r Iwerddon a’r Almaen.

“Mae’r data yma o gyfrifiadau 2011, sef y cyfrifiad mwyaf diweddar gallwn gymharu yn y rhan fwyaf o wledydd, … er hyn mae’n ymchwil yn awgrymu nad oes llawer o newid rhwng ffigyrau 2011 a 2016,” meddai Is-Gyfarwyddwr Poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, Jay Lindop.