Llys Ynadon Westminster
Mae disgwyl i ddyn o Abertawe ymddangos gerbron ynadon yn Llundain heddiw, wedi’i gyhuddo o droseddau brawychol.

Fe fydd Lee Edward Griffiths, 26, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster, wedi’i gyhuddo o bump o droseddau yn ymwneud â chasglu gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddio i rywun sy’n cyflawni neu’n paratoi ar gyfer gweithredoedd brawychol.

Fe gafodd ei arestio ar Ionawr 19, a hynny gan swyddogion uned WECTU (Uned Gwrth Derfysgaeth Eithafol Cymru) ac Uned Gwrth Derfysgaeth y West Midlands.