Effaith tswnami yn Japan
Mae mathemategydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwain prosiect newydd sy’n defnyddio tonnau disgyrchiant acwstig er mwyn rhybuddio fod tswnami ar y ffordd.
Mae Dr Usama Kadri yn defnyddio yr hyn sy’n cael eu galw’n ‘donnau disgyrchiant acwstig’ i greu system nabod tonnau ar waelod y môr, fel rhai tswnami.
Mae’r tonnau disgyrchiant acwstig – neu AGW – yn cael eu cynhyrchu wrth i’r gwynt a’r tonnau gydweithio â’i gilydd, ac maen nhw’n teithio ar gyflymdra sain mewn dŵr ac yn cludo gwybodaeth am eu tarddiad.
A dyna sut y gall y tonnau hyn gael eu defnyddio mewn systemau sy’n rhybuddio pan fo tswnami ar fin taro.
Theori tonnau acwstig
“Mae tonnau disgyrchiant amledd isel yn cael eu cynhyrchu yn y môr,” meddai Usama Kadri wrth golwg360. “R’yn ni wedi bod yn datblygu theori tonnau acwstig…
“Gan ddefnyddio AGW, fe gewch chi signalau o’r tarddiad. Pe bai daeargryn yn digwydd a bod tswnami yn dilyn, fe gewch chi donnau acwstig ar gyflymdra sain, sydd lawer uwch na chyflymdra’r tswnami, sy’n golygu unwaith ydych chi’n canfod y tonnau hynny, gallwch eu defnyddio i ganfod tswnami cyn iddo daro, gan fod gyda chi wybodaeth am y tarddiad.
“Gyda theori tonnau acwstig,” meddai, “nid yn unig y gallwn ni ddweud bod tswnami ar ei ffordd ond gallwn ni hefyd ddweud rhywbeth am ei nodweddion – ei leoliad a radiws yr uwchganolbwynt, ac yn y blaen.
Anwybyddu disgyrchiant
Yn ôl Usama Kadri, mae mathemategwyr a gwyddonwyr y gorffennol wedi bod yn gweithio ar donnau sain heb ystyried disgyrchiant, neu ar ewyn y don heb ystyried cywasgedd.
Ond y gyfrinach, meddai, yw cyfuno’r ddau beth.
“Unwaith rydych chi’n eu cyfuno, rydych chi’n dechrau rhoi ystyriaeth i donnau disgyrchiant acwstig.
“Does dim llawer o ymchwilwyr ar draws y byd yn gweithio ar hwn, ond mae’n faes newydd. Mae rhan fwya’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn canolbwyntio ar ganfod, ac nid atal, tswnami.”
Mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu’r prosiect fel rhan o brosiect ehangach ar y cyd â myfyrwyr peirianneg y brifysgol, a phrifysgolion Califfornia yn San Diego; MIT (Sefydliad Technoleg Massachusetts) a Newfoundland yng Nghanada.