Caroline Jones yn taro'n ol
Mae un o aelodau UKIP yn y Cynulliad wedi taro’n ol yn erbyn honiadau ei bod yn yn “wrth-Gymraeg”, gan ddweud ei bod hi’n iawn iddi godi cwestiynau ynglyn â gwerth rhoi addysg trwy gyfrwng yr iaith i bawb yng Nghymru.
Fe gafodd Caroline Jones ei chyhuddo gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o danseilio gwerth addysg Gymraeg, wedi iddi ofyn cwestiwn yn sesiwn holi’r Prif Weindiog yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.
“Dwi’n angerddol am ein hiaith a dw i eisiau i’r nifer o bobol sydd yn siarad ein hiaith i gynyddu,” meddai Caroline Jones wrth golwg360, wrth ymateb i sylwadau’r Gymdeithas.
“Os faswn i’n wrth-Gymraeg, faswn i ddim yn dysgu Cymraeg … dw i eisiau bod yn rhugl, ac mi o’n i’n cael gwersi Cymraeg cyn dod i’r Cynulliad.
“Dw i eisiau i bawb cael eu cynnwys … ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gelyniaethu ac yn gwahanu pobol oddi wrth ei gilydd,” meddai wedyn. “Os oes gyda nhw broblem, gadewch iddyn nhw ddod i fy ngweld i!”
“Stick approach”
Wrth esbonio ei defnydd o’r term “stick approach” i ddisgrifio’r drefn addysg bresennol dywedodd.
“Os ydyn ni’n gwneud i bobol ddysgu rhywbeth, efallai nad ydyn nhw ddim eisiau hynny, ac y byddai (eu gorfodi) yn cael effaith negyddol ar ein hiaith ni,” meddai Caroline Jones.
“Ydyn ni’n ymdrin â phethau yn y ffordd anghywir? Oes ffordd wahanol y gallwn ni fod yn ymdrin â hyn fydd yn cael effaith bositif ar bawb?
“Efallai y gallem fod yn gwneud pethau mewn ffordd well … dydyn ni ddim eisiau cael effaith negyddol ar ein hiaith trwy ei gwneud hi’n orfodol.”
Plant dan anfantais
Mae Caroline Jones hefyd yn dadlau bod addysg cyfrwng Cymraeg gorfodol ar lefel meithrin yn rhoi “plant o gartrefi di-Gymraeg dan anfantais” ac yn creu pellter rhwng plant a’u rhieni.
O ran ei sylwadau “mae mwyafrif o bobol yn gwrthwynebu’r ffaith bod dysgu’r iaith yn orfodol” mae hi’n derbyn bod hyn ddim yn ffeithiol wir a’i bod wedi dweud hyn ar sail ymateb ei hetholwyr hi yn rhanbarth de-orllewin Cymru.
“Dylai fod y Gymraeg yn rhan o gwricwlwm pawb,” meddai, “ond pa oedran mae hi’n stopio bod yn rhan o’r cwricwlwm?” meddai.