Mae dyfodol ariannol S4C yn parhau’n ansicr, wedi i un o weinidogion yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) gyhoeddi y bydd y sianel yn derbyn £700,000 yn llai o San Steffan y flwyddyn nesa’.
Mewn dadl yn Neuadd Westminster heddiw, fe gadarnhaodd Matt Hancock ar ran y DCMS yr hyn oedd wedi’i amlinellu yn Natganiad yr Hydref, Canghellor y Trysorlys ym mis Tachwedd – sef y bydd yr arian i S4C yn gostwng o £6.762 miliwn y flwyddyn yma, i £6.058 miliwn y flwyddyn nesa’.
Ar y diwedd, fe roddodd y gweinidog awgrym fod y toriad arian yn cael ei ailystyried – heb ddweud mwy.
Fe ddaeth cadarnhad hefyd y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i waith y sianel – ond does dim sôn pryd yn union y bydd hwnnw’n digwydd. Yn ôl Matt Hancock, fe fydd yr adolygiad yn cael ei gynnal “yn fuan”.
Cafodd datganoli pwerau pellach dros ddarlledu ei drafod hefyd yn ystod y drafodaeth.
Adolygiad “yn fuan”
“Mae’r iaith Gymraeg ac S4C yn bwysig i’r Deyrnas Unedig,” meddai Matt Hancock, yn Gymraeg, cyn ychwanegu:
“Bydd yr adolygiad yn digwydd yn fuan, rydym yn ymwybodol o’r mater ynglŷn â phwerau benthyca ac rydym yn edrych ar opsiynau.
“O ran amseru, byddwn yn cyhoeddi yr adolygiad yn fuan… a gallaf eich sicrhau y bydd gan yr adolygwr ddealltwriaeth drwyadl o Gymru.”
Ymateb Huw Jones
“Rydym yn croesawu’r drafodaeth fu yn San Steffan heddiw a sylwadau cefnogol y Gweinidog yn yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, mewn datganiad i golwg36o.
“Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddiad pellach ynglŷn ag amseriad adolygiad y Llywodraeth, cyllido tymor byr a phwerau benthyg.”