Gwydd talcenwyn (Llun: RSPB)
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £24,000 dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn i RSPB Cymru arwain ar y gwaith o ail-gyflwyno gwyddau talcenwyn yr Ynys Las i Gymru.
Mae’r arian wedi’i roi gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ers diwedd y 1990au, mae poblogaeth fyd-eang gwyddau talcenwyn yr Ynys Las wedi gostwng tua 40%, ac mae llai nag 20 o adar yn treulio’r gaeaf yn aber afon Dyfi. Mae poblogaeth ardal afon Dyfi’n dirywio’n gynt na’r gyfartaledd fyd-eang.
Mae RSPB Cymru’n gweithredu ar ran Partneriaeth Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las wrth arwain y prosiect, ac fe fydd yr arian yn helpu i wella cadwraeth yn yr ardal.
Derbyniodd y prosiect £15,000 gan Lywodraeth Cymru y llynedd hefyd i fonitro symudiadau’r gwyddau, canfod llefydd lle maen nhw’n aros yng Nghymru yn yr hydref a’r gaeaf, ac asesu eu cynefinoedd yng Nghymru.
Mae lle i gredu bod 18,879 o wyddau talcenwyn yr Ynys Las yn y byd ar hyn o bryd, y cofnod isaf ers gwanwyn 1985.
Mae aber afon Dyfi yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig.
Ymateb
Dywedodd Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru, Amy Vanstone: “Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid newydd a fydd gobeithio yn helpu i ddiogelu dyfodol gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru, gyda’i phoblogaeth wedi dirywio’n sylweddol ers y 1990au.
“Drwy gydweithio drwy’r bartneriaeth rydym yn hyderus y gallwn ddod o hyd i’r rhesymau am y dirywiad, ac helpu tynged y rhywogaeth eiconig hon yng Nghymru.”