Keith Davies (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth am ddyn 56 oed sydd ar goll o Ferthyr Tudful.
Dydy Keith Davies o Droed-y-rhiw ddim wedi cael ei weld ers canol dydd ddydd Sadwrn.
Mae’n 5’7″ ac o gorffolaeth denau.
Roedd yn gwisgo siaced lwyd pan adawodd ei gartref.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.