Dafydd Wigley - penderfyniadau pwysig (Llun Plaid Cymru)
Mae Mesur Cymru yn wynebu dau benderfyniad tyngedfennol heddiw wrth gyrraedd ei gyfnod adolygu yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Fe allai un bleidlais – am hawliau benthyg Llywodraeth y Cynulliad – benderfynu a fydd y Mesur yn dod yn gyfraith yn y pen draw.

Ar ôl protestiadau gan y gwrthbleidiau, mae Llywodraeth Prydain yn argymell codi’r swm benthyca o £500 miliwn y flwyddyn i £1 biliwn, ond mae Llafur a Phlaid Cymru eisiau dyblu hynny eto.

Mae Eluned Morgan a Dafydd Wigley wedi cynnig gwelliant yn rhoi hawl benthyg o £2biliwn ac fe allai’r swm fod yn dyngedfennol i gael cydsyniad y Cynulliad yn nes ymlaen.

“Y peth allweddol sy’n codi heddiw ydy hawl benthyca yn codi o £500 miliwn i un biliwn, ond mae hynny’n disgyn yn brin o’r swm o £2 biliwn oedd Comisiwn Silk wedi argymell,” meddai Dafydd Wigley wrth golwg360.

‘Sefydlu gweithgor’

Yr ail benderfyniad tyngedfennol fydd gwelliant sy’n cael ei gynnig gan yr Arglwydd Elystan Morgan i  sefydlu gweithgor i asesu Mesur Cymru, gan adrodd ymhen tair blynedd a yw’r drefn yn gweithio ai peidio.

Mae hynny’n codi yn sgil amheuon y gwrthbleidiau bod Llywodraeth Prydain yn dal gormod o rymoedd yn ôl yn Llundain yn hytrach na’i datganoli ac y bydd y drefn yn arwain at ddryswch a llanast.

Mae Elystan Morgan yn argymell a fydd angen newid y pwerau hynny, gyda gorchymyn i Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi’r adroddiad a’r argymhellion.


Elystan Morgan
Mesur Cymru – “materion dibwys” yn cael eu cadw yn ôl

Yn ôl Elystan Morgan, mae y “materion dibwys” sy’n cael eu cadw yn ôl yn “sarhad i genedligrwydd Cymreig” ac na fyddan nhw’n cael eu “hystyried yn y 1950au yng nghyd-destun y drefedigaeth Brydeinig yn y Caribî nac yn Affrica”.

“Rwy’n mentro meddwl mai’r gwelliant hwn yw’r un fwyaf pwysig i ddatganoli yng Nghymru am ei fod yn ceisio cywiro nam tyngedfennol wrth wraidd y setliad [datganoli],” meddai mewn blog ar-lein.

“Mae’r syniad o ddatganoli sy’n arddel egwyddorion hunan reolaeth, yn y bôn, yn dibynnu ar dderbyn yr hyn y bydda’ i’n ei alw yn drobwynt cyfiawnder a phen rheswm.

“Nid yw hyn yn fwy na’n llai na derbyn, tra bod rhai materion yn perthyn yn anochel i’r fam Senedd [San Steffan], fel dilyniant y Goron, Polisi Amddiffyn a Thramor, mae llwyth sylweddol o’r gweddill yn faterion sy’n amlwg yn perthyn i awdurdod y senedd ddatganoledig [y Cynulliad Cenedlaethol].

“Mae gwadu’r trobwynt hwn yn sarhad i synnwyr cyffredin, yn bradychu ac yn dibrisio datganoli,” meddai Elystan Morgan wedyn.

Cadw pwerau yn ôl – ‘sarhad’ i Gymru

Mae’r Arglwydd Elystan Morgan wedi cynnig gwelliant i Fesur Cymru a fyddai’n golygu sefydlu gweithgor i adolygu’r pwerau fydd yn cael eu cadw nôl i San Steffan dan y mesur o fewn y tair blynedd nesa’.

A phe bai’r cynnig yn cael ei dderbyn, gallai olygu y bydd rhai pwerau sy’n cael eu cadw yn ôl dan Fesur Cymru, yn cael eu trosglwyddo i Gymru.

Yn y gorffennol, mae Elystan Morgan, cyn AS Llafur, wedi dweud bod dros 200 o bwerau sy’n cael eu cadw yn ôl yn y mesur yn “ymwneud â materion bychain a thila”, sy’n cynnwys trwyddedau alcohol, cŵn peryglus, puteindra a chasgliadau elusennol, ymhlith eraill.