Mae dyn 30 oed wedi’i ladd mewn damwain car yng Nghasnewydd ben bore heddiw.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi iddyn nhw gael eu galw i ddamwain am 7yb. Roedd dyn o Glynrhedyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Dim ond un cerbyd Peugeot 306 melyn oedd yn rhan o’r ddamwain, a dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar Ystad Ddiwydiannol Croespenmaen.