Chris Coleman (llun:Joe Giddens/PA)
Bydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn cael gradd anrhydedd gan Brifysgol Abertawe ddydd Mercher, Ionawr 11.
Mae’r brifysgol wedi penderfynu anrhydeddu’r gŵr, 46 oed, sy’n wreiddiol o ardal Townhill yn Abertawe â gradd MSc yn dilyn ei lwyddiant yn arwain Cymru i bencampwriaeth Ewro 2016.
Dyma oedd y tro cyntaf mewn 58 mlynedd i’r tîm gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol.
Mae’r anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe yn un arall i’w hychwanegu at restr yr hyfforddwr.
Ym mis Ionawr, fe dderbyniodd Chris Coleman OBE, ac ym mis Rhagfyr fe gafodd wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru.
Mae hefyd wedi derbyn anrhydedd Rhyddid Abertawe ym mis Hydref 2016.