Liam Williams (Llun gan y Saracens)
Mae tîm rygbi’r Saracens wedi cadarnhau bod y cefnwr Liam Williams wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda nhw, i gychwyn y tymor nesaf.

Bydd y chwaraewr 25 oed yn gadael y Scarlets yn Llanelli ac yn mentro am Barc Allianz, Llundain i gymryd lle Chris Ashton.

Mae Liam Williams wedi ennill 38 cap ers chwarae tros ei wlad am y tro cyntaf yn 2012, ond nid yw’n sicr o ennill lle yn y tîm y tymor nesa’ os yw’n chwarae i glwb y tu allan i’r wlad – yn ôl rheolau Warren Gatland.

Mae cyfarwyddwr y Saracens, Mark McCall, wedi dweud bod arwyddo’r chwaraewr yn “benderfyniad gwych” i’r clwb gan ei fod yn un o’r cefnwyr gorau yn Ewrop.

Dywedodd y Scarlets eu bod wedi brwydro’n galed  i gadw Liam Williams ond nad oedden am fynd yn erbyn ei ddymuniadau.