Wel, ddarllenwyr Golwg360, mae’n ymddangos mai dyma’r rownd roeddech chi’n ei hoffi leiaf.

O blith yr holl rowndiau, dyma’r un lle gwnaethoch chi hepgor y nifer fwyaf o gwestiynau, ac roedd eich atebion yn amrywio’n fawr.

Roedd eich gwybodaeth am bêl-droed yn dda ar y cyfan – mae’n siŵr na fydd yr un ohonon ni’n anghofio haf euraid y tîm cenedlaethol yn Ewro 2016 yn Ffrainc.

Haf euraid gafodd athletwyr o Gymru yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio, gydag wyth medal aur rhyngddyn nhw. Ond tybed oeddech chi’n gwybod faint o fedalau enillodd athletwyr o Gymru ar y cyfan?

Roedd yr haf yn un cofiadwy hefyd i rai o Gymry ifainc tîm criced Morgannwg, hyd yn oed os nad oedd yn dymor llewyrchus i’r tîm ar y cyfan. Am y tro cyntaf ers i Robert Croft ymddeol, mae gan y sir Gymro Cymraeg ymlith y chwaraewr. Fel y prif hyfforddwr, mae Owen Morgan hefyd yn hanu o’r Hendy. A ‘Crofty’, wrth gwrs, yw’r Cymro Cymraeg cyntaf i fod yn brif hyfforddwr ers Alan Jones.

A faint, tybed, oeddech chi’n cofio am rai o ddigwyddiadau mwyaf rhyfedd y byd chwaraeon dros y deuddeg mis diwethaf – o’r snwcer yng Nghaerdydd i ymgais i dorri record anarferol ar gaeau Llanrhymni ym mis Awst?

O’r gic gyntaf i’r chwiban olaf, bydd 2016 yn sicr yn aros yng nghof cefnogwyr y campau am flynyddoedd i ddod.

Rownd 2 – Chwaraeon

1. Pwy enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Chwaraeon Cymru eleni?

Ateb: Jade Jones

Mae’r ferch 23 oed o’r Fflint wedi rhoi taekwondo ar y map yng Nghymru ers Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. Ar ôl ennill medal aur bryd hynny, llwyddodd hi i ddal ei gafael ar ei theitl Olympaidd yn Rio ac roedd hi hefyd yn bencampwraig Ewrop yn 2016. Gareth Bale a’r seiclwraig Elinor Barker oedd yn ail a thrydydd y tu ôl iddi yn dilyn pleidlais y panel a’r cyhoedd. Da iawn i’r 73% ohonoch chi oedd yn gwybod yr ateb.

2. Yn erbyn pa wlad y sgoriodd Hal Robson-Kanu ‘gôl orau Ewro 2016’?

Ateb: Gwlad Belg

Hanner amser, 1-1 rhwng Cymru a…. Gwlad Belg. Un o’r gemau mwyaf yn hanes tîm pêl-droed Cymru. Rownd wyth olaf Ewro 2016. Hal Robson-Kanu yn ei ddarganfod ei hun yn y cwrt cosbi, yn chwim ei droed wrth guro tri amddiffynnwr, yn troelli’n gelfydd cyn curo’r golwr Thibaut Courtois i sicrhau bod gan Gymru un droed yn y rownd gyn-derfynol. A’r ymosodwr yn cael ei gymharu â’r cawr Johan Cruyff. 82% o atebion cywir ddaeth yn ôl ar gyfer y cwestiwn hwn. Pawb gyda’i gilydd… HAL! HAL ROBSON! HAL-ROBSON KANU! HAL!

3. Yn 2016, pa gricedwr oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred dosbarth cyntaf dros Forgannwg yn ei dymor cyntaf gyda’r sir?

Ateb: Kiran Carlson

Owen Morgan oedd eich ateb mwyaf cyffredin i’r cwestiwn hwn, gyda 36% ohonoch chi’n mynd am y Cymro Cymraeg ifanc. Bydd cefnogwyr selog yn cofio canred Owen Morgan yng Nghaerwrangon ond record wahanol dorrodd e bryd hynny, gan ddod y noswyliwr cyntaf erioed i daro canred dros Forgannwg. Kiran Carlson, 18 o Gaerdydd, fodd bynnag, aeth â’r record oedran, gan guro Matthew Maynard, oedd yn 19 oed pan darodd e ganred yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Efrog yn 1985. 31% ohonoch chi’n unig atebodd yn gywir y tro hwn.

4. Imad Wasim oedd y ‘Cymro’ cyntaf erioed i chwarae criced rhyngwladol yng Nghaerdydd ar ôl cynrychioli Pacistan yn erbyn Lloegr eleni. Ym mle y cafodd ei eni?

Ateb: Abertawe

Cafodd 80% ohonoch chi’r ateb hwn yn anghywir. Stori ddigon ysgafn oedd hon ddechrau mis Medi. Roedd llygaid y byd ar y chwaraewr amryddawn o Bacistan oedd yn ‘dod adre’ i Gymru. Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe oedd ei rieni adeg ei eni yn 1988, ac fe dreuliodd e flynyddoedd cynta’i fywyd yn y ddinas honno, er ei fod yn rhy ifanc i gofio rhyw lawer am y cyfnod hwnnw. Mae’n disgrifio’i hun fel Pacistani a gafodd ei eni yng Nghymru. Ond roedd e’n sicr yn Gymro ar Fedi 4 wrth iddo fe daro’r rhediadau buddugol i guro Lloegr yng ngêm ola’r gyfres undydd.

5. Cafodd un o gôl-geidwaid Cymru ei gofio eleni, 100 mlynedd ar ôl cael ei ladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond beth yw’r sillafiad cywir o’i enw?

Ateb: Leigh Roose

Dyma gwestiwn arall a faglodd gryn dipyn ohonoch chi, gyda 33% yn unig ohonoch chi’n cynnig yr ateb cywir. Dyma filwr o Holt ger Wrecsam a fu’n destun cofiant yn 2016 gan yr awdur a’r newyddiadurwr Spencer Vignes. Roedd camsillafu ar gofnodion swyddogol y lluoedd arfog yn golygu na ddaeth yr hanes i gyd am y pêl-droediwr yn hysbys am ganrif gyfan. ‘Rouse’ oedd ar y cofnodion hynny, oedd wedi’i gwneud hi’n anodd darganfod sut a phryd y bu farw, gyda rhai yn credu iddo gael ei ladd ym Mrwydr y Somme. Mae’r sillafiad cywir bellach ar gofeb i filwyr coll yn Thiepval.

6. Cafodd Ched Evans ei ryddhau o’r carchar eleni, ond dros ba glwb mae e’n chwarae erbyn hyn?

Ateb: Chesterfield

Gyda chlwb Sheffield United roedd yr ymosodwr pan gafodd ei garcharu yn 2012 am dreisio. Roedd hi’n ymddangos am gyfnod y câi ddychwelyd i’r clwb ar ôl ei ryddhau, ond roedd protestiadau gan gefnogwyr ac enwogion blaenllaw, gan gynnwys Jessica Ennis-Hill, yn golygu bod y clwb wedi gwneud tro pedol a’i ryddhau’n swyddogol o’i gytundeb ar ddiwedd tymor 2011-12. Ac yntau bellach wedi ennill apêl yn erbyn ei gollfarniad, mae’n chwarae dros glwb Chesterfield yn yr Adran Gyntaf ac fe greodd argraff ar ei gyflogwyr newydd ar unwaith gyda sawl gôl bwysig ar ddechrau’r tymor. Ond mae ganddo fe dipyn o waith i’w wneud o hyd i ddarbwyllo rheolwr Cymru, Chris Coleman i adennill ei le yn y garfan. 76% o atebion cywir a ddaeth i law y tro hwn.

7. Sawl medal enillodd athletwyr o Gymru yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd gyda’i gilydd?

Ateb: 19

Dywedodd 36% ohonoch chi mai 18 medal enillodd y Cymry Olympaidd a Pharalympaidd yn Rio, ond 19 yw’r ateb cywir – da iawn i’r 27% ohonoch chi oedd yn gwybod yr ateb. Dyma’r nifer fwyaf erioed i’r Cymry mewn un flwyddyn Olympaidd a Pharalympaidd. Roedd yr haf yn sicr yn un i’w gofio i’n hathletwyr ni.

8. Pwy enillodd Bencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghaerdydd eleni?

Ateb: Ronnie O’Sullivan

Mae gan ‘Rocket’ berthynas gymhleth â phrif gystadleuaeth snwcer yng Nghymru, ac mae e wedi sarhau’r gystadleuaeth ddwy flynedd yn olynol. Yn 2015, fe ddywedodd fod y Motorpoint Arena fel “canolfan siopa”. Yn 2016, cafodd ei gyhuddo gan gadeirydd World Snooker, Barry Hearn o fod yn “amharchus” ar ôl gwrthod y cyfle i sgorio 147. Wrth botio’r belen binc yn lle’r ddu, gan sgorio 146, dywedodd y Sais nad oedd gwobr o £10,000 yn ddigon o gydnabyddiaeth am 147. Roedd 56% ohonoch chi’n gwybod yr ateb.

9. Pa dref sy’n cael ei hystyried yn fan geni rygbi yng Nghymru 150 o flynyddoedd yn ôl?

Ateb: Llanbedr Pont Steffan

Ie, dafliad carreg o’n swyddfa ni yma yn Llambed y ‘ganwyd’ rygbi yng Nghymru, yn ôl rhai. Dyw’r dref, wrth gwrs, ddim o reidrwydd yn adnabyddus fel un o’r trefi rygbi mawr. Fe ddywedodd cryn dipyn ohonoch chi mai Llanelli (27%) neu Bontypridd (25%) oedd ei man geni. Ond ar gaeau’r brifysgol y cafodd y gêm rygbi gyntaf yng Nghymru ei chynnal a honno yn 1866 rhwng Coleg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri. Mae cofnod o’r hanes yn y llyfr ‘Fighting Parsons’ gan Selwyn Walters. Da iawn i’r traean (33%) ohonoch atebodd yn gywir.

10. Beth oedd cosb Joe Marler am alw Samson Lee yn ‘gypsy boy’?

Ateb: Gwaharddiad o ddwy gêm a dirwy o £20,000

Lloegr v Cymru yn Twickenham ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ffrwgwd rhwng pac Lloegr a phrop Cymru, Samson Lee. Y gêm yn fyw ar y teledu, a’r meicroffôn yn dal y geiriau ‘Oi, gypsy boy’. Ymddiheurodd prop Lloegr yn ystod hanner amser, mae’n debyg, ond wnaeth hynny ddim ei helpu yn ystod gwrandawiad disgyblu pan gafodd waharddiad o ddwy gêm a dirwy o £20,000. 45% ohonoch chi atebodd yn gywir.

11. Pam fod Adam Lindin Ljungkvist wedi cael ei anfon o’r cae yn ystod gêm bêl-droed yn Sweden ym mis Mehefin?

Ateb: Rhechu

Do, fe achosodd y weithred honno dipyn o sdinc! Ac fe achosodd y cwestiwn dipyn o sdinc ymhlith ein darllenwyr ni hefyd, mae’n ymddangos. Dim ond 20% ohonoch chi gafodd yr ateb yn gywir, gydag 20% hefyd yn dweud mai ‘poeri’ oedd y rheswm am y cerdyn coch, ac 17% yn nodi ‘rhegi’ fel ateb posib. Dywedodd y rhan fwyaf ohonoch chi (43%), fodd bynnag, mai ymladd gyda’i gyd-chwaraewr wnaeth Ljungkvist. Er, mae digon o enghreifftiau o hynny’n digwydd ar hyd y blynyddoedd hefyd! Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Adam Lindin Ljungkvist ei fod yn synnu bod y digwyddiad wedi denu cymaint o sylw – ond mae’n debyg bod ei wrthwynebwyr y diwrnod hwnnw’n credu bod y digwyddiad yn deilwng o sylw’r wasg – ac felly, nid dim ond y chwaraewyr hynny o fewn ychydig o lathenni iddo adeg ei rech a glywodd amdani.

12. Ym myd rygbi, pa record byd gafodd ei thorri ar gaeau Llanrhymni yn ystod Gŵyl ‘Golden Oldies’ ym mis Awst?

Ateb: Y sgrym fwyaf erioed

Ymateb cymysg a gafwyd i’r cwestiwn hwn, gyda 42% yn rhoi’r ateb cywir, ond 38% ohonoch chi hefyd yn dweud bod record wedi’i thorri am y cerdyn coch cynharaf erioed mewn gêm. 1,297 o chwaraewyr oedd yn y sgrym fawr hon – gan dorri’r record flaenorol o 1,198 yn Twickenham adeg Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015. A sôn am Gwpan y Byd, pwy all anghofio Cymru’n curo Lloegr o 28-25 ar ôl i gapten Lloegr, Chris Robshaw benderfynu cicio am y gornel yn hytrach na mynd am y triphwynt i unioni’r sgôr. Mae’n siŵr fod aml i Gymro’n cynnig “hen botel gwrw” Max Boyce i’r Saeson y diwrnod hwnnw!