Mae’r BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn gwahodd gwrandawyr i gyngerdd arbennig ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, fel rhan o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd y sianel yn 40 oed.
Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gydag artistiaid fel Ywain Gwynedd ac Alys Williams yn perfformio yn y digwyddiad yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd, sef cartref Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Yn ogystal â rhai o’r hen glasuron, mae’r cerddor John Quirk wedi ysgrifennu trefniannau newydd i’r gerddorfa ar gyfer yr achlysur.
‘Teimlo fel Mozart’
Dywedodd Dyl Mei, y cynhyrchydd sydd wedi dewis cerddoriaeth ar gyfer y diwrnod, “Dwi erioed wedi gweld cerddorfa yn fyw o’r blaen. Felly bydd hi’n bleser pur clywed un go iawn y BBC yn chwarae rhai o fy newisiadau personol. Mae o’n neud i fi deimlo fel Mozart – er ’mod i dal i edrych fel Pavarotti!”
Ymhlith yr uchafbwyntiau, bydd Ywain Gwynedd yn canu Sebona Fi – hoff gân gwrandawyr Radio Cymru yn siart #40Mawr yr orsaf yn 2016.
‘Diwrnod i’w gofio’
Ychwanegodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni ar Ddiwrnod Santes Dwynwen i fwynhau diwrnod i’w gofio yn Neuadd Hoddinott.
“Does dim angen tocynnau ac mae cyfle i bobl gyrraedd unrhyw bryd yn ystod y dydd. Hoffwn ddal ar y cyntaf o nifer o gyfleoedd fydd eleni, i ddiolch yn fawr i’r rheiny sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr orsaf.
“Ac mae’r diolch mwya’, wrth gwrs, i’n cynulleidfa sy’n cadw cwmni i ni bob dydd. Diolch o galon!”