Claire Foy yn y Golden Globes Llun: Jordan Strauss/Invision/AP
Yn seremoni’r Golden Globes yn Los Angeles, mae cyfres The Night Manager a The Crown wedi ennill nifer o wobrau.
Fe enillodd Claire Foy y wobr am yr actores orau mewn drama deledu am ei rôl yn chwarae’r Frenhines yn y gyfres Netflix. The Crown. Roedd y gyfres hefyd wedi cipio’r wobr am y gyfres drama deledu orau.
Cafodd Tom Hiddleston wobr am yr actor gorau mewn cyfres deledu am ei berfformiad yng nghyfres y BBC The Night Manager, tra bod Hugh Laurie ac Olivia Colman hefyd wedi ennill gwobrau am eu rôl gynorthwyol yn y gyfres.
Fe gipiodd y ffilm La La Land saith gwobr gan gynnwys yr actor gorau i Ryan Gosling a’r actores orau i Emma Stone.
Ond doedd dim gwobr i’r Cymro Matthew Rhys a gafodd ei enwebu am ei rol yn chwarae rhan Philip Jennings yn y gyfres The Americans sydd wedi’i gosod yn y Rhyfel Oer yn y 1980au.