Tair rownd ar ben, dwy rownd ar ôl. Yn y bedwaredd rownd hon, fe wnaethon ni ofyn i chi gofio prif ddigwyddiadau’r byd celf i’r byd llenyddol.
Pwy, tybed, oedd y canwr a geisiodd ymddiswyddo o’r Orsedd drwy wefan gymdeithasol Facebook? Pa bêl-droediwr greodd ddarlun o’i gyd-chwaraewyr yn Ewro 2016 yn Ffrainc?
O’r dwys i’r doniol, dyma gip ar fyd y Celfyddydau yn 2016.
Atebion
1. Pa ganwr geisiodd ymddiswyddo fel aelod o’r Orsedd drwy wefan Facebook am nad oedd aelodau tîm pêl-droed Cymru wedi cael eu hanrhydeddu eleni?
Ateb: Arfon Wyn
Fe adawodd Arfon Wyn y neges ganlynol ar ei dudalen Facebook mewn protest yn erbyn penderfyniad yr Orsedd i beidio ag urddo aelodau tîm pêl-droed Cymru yn dilyn eu llwyddiant yn Ewro 2016:
“Fel protest yn erbyn y Steddfod yn gwrthod rhoi clod dyladwy i dîm pel-droed Cymru, gyda thristwch rwyf i, Arfon Wyn, yn ystyried rhoi fy anrhydedd o wisg wen yn ôl i’r Orsedd.
“Mae geni gywilydd o’u penderfyniad cibddall. Oes rhywun arall yn fodlon gneud yr un safiad.”
Atebion cywir: 88%
2. Pa aelod o garfan bêl-droed Cymru sydd wedi arlunio’i gyd-chwaraewyr yn Ewro 2016 yn Ffrainc eleni?
Ateb: Owain Fôn Williams
Cafodd ei ysbrydoli i ddarlunio profiadau’r garfan gan ddau o’i gyd-chwaraewyr, Joe Ledley a Wayne Hennessey wrth i’r garfan ddathlu cyrraedd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth cyn colli yn erbyn Portiwgal, a aeth ymlaen i ennill y twrnament.
“Mae wedi cymryd dros bum mis i mi ei gwblhau a dwi yn mawr obeithio fy mod wedi llwyddo i wneud cyfiawnder â phawb fu’n chwarae eu rhan yn un o lwyddiannau mwyaf hanesyddol ein gwlad. Cymru am byth!”
Atebion cywir: 87%
3. Pa fand ail-wampiodd y gân ‘Rhedeg i Paris’ ar gyfer Ewro 2016?
Ateb: Candelas
Fersiwn Candelas o glasur ‘Anhrefn’ oedd un o ‘diwns’ yr haf euraid i dîm pêl-droed Cymru yn Ffrainc. Cafodd y gwreiddiol ei rhyddhau yn 1990 ar label Crai.
Atebion cywir: 82%
4. Cerdd gan bwy a gafodd ei thaflunio ar Big Ben ar gyfer Sul y Cofio eleni?
Ateb: Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn luniodd y gerdd ‘Terasau’ oedd wedi ymddangos ar un o leoliadau mwyaf adnabyddus prifddinas Lloegr, lle cafodd y bard yntau ei eni’n un o Gymry Llundain. Yn ôl y bardd, ymweliadau â mynwentydd lle cafodd milwyr y Somme eu claddu oedd ei ysbrydoliaeth.
Cafodd rhai ohonoch chi eich denu gan un arall o’n hopsiynau yn y cwestiwn hwn, sef y bardd rhyfel mwyaf ohonyn nhw i gyd, Hedd Wyn, gyda 23% ohonoch chi’n dweud mai ei eiriau yntau oedd i’w gweld ar ‘Big Ben’ – neu Dŵr Elizabeth i roi ei enw cywir iddo.
5. Roedd Croeso Cymru yn y llys eleni am ddefnyddio llun o bwy heb ganiatâd?
Ateb: Dylan Thomas a’i wraig Caitlin
Dyn busnes, Haydn Price, oedd wedi hawlio costau ar ôl i nifer o gyrff ledled y byd dorri rheolau hawlfraint drwy ddefnyddio llun o’r cwpl oedd yn dangos Dylan a Caitlin oedd newydd briodi. Ond roedd Croeso Cymru wedi gwadu iddyn nhw wneud unrhyw beth o’i le. 56% ohonoch chi atebodd yn gywir, ond fe ddyfalodd 33% ohonoch chi mai Catherine Zeta Jones a Michael Douglas oedd dan sylw yma.
6. Llyfr ‘Y Bwthyn’ gan ba awdur ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth ‘Llyfr y Flwyddyn’ eleni?
Ateb: Caryl Lewis
Mae ‘Y Bwthyn’, sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa, yn cael ei disgrifio fel nofel gynnil, delynegol, a’r mynydd a’i dymhorau yn gymeriadau amlwg ynddi. Dyma’r eildro i Caryl Lewis ennill y teitl Llyfr y Flwyddyn: cipiodd y brif wobr yn 2005 gyda’i nofel boblogaidd ‘Martha Jac a Sianco’ (Y Lolfa). Caryl Lewis hefyd oedd enillydd Gwobr Barn y Bobol Golwg360. 84% ohonoch chi oedd yn gwybod yr ateb cywir.
7. Ymddangosodd aelodau seneddol o Gymru, sydd wedi ffurfio band, ar recordiad o gân ‘You Can’t Always Get What You Want’ er cof am Jo Cox eleni. Beth yw enw’r band?
Ateb: MP4
MP3 oedd enw gwreiddiol y band a gafodd ei sefydlu gan Pete Wishart (SNP), Ian Cawsey (cyn-AS Llafur) a Greg Knight (Ceidwadwyr). Ond newidiodd y triawd eu henw ar ôl i Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan ymuno â nhw.
Dyma’r cwestiwn a berodd y mwyaf o drafferth i chi yn y rownd hon, gyda dim ond 28% ohonoch chi’n ateb yn gywir. 27% ohonoch chi ddywedodd MP5, 23% yn dweud MP6, ond dim ond 21% a gafodd eich twyllo gan ‘MP3’.
8. Pa ganwr-gyfansoddwr o Bontypridd a ysgrifennodd eiriau cân enillydd yr X Factor eleni?
Ateb: Amy Wadge
Ed Sheeran sy’n cael ei gysylltu’n bennaf â’r gan fel y canwr, ond cydweithiodd y ddau arni pan oedd Sheeran yn dysgu ei grefft fel canwr ifanc. Roedd y gân yn y siartiau am 19 wythnos cyn iddi gyrraedd Rhif 1 ym mis Tachwedd 2014, a hi yw’r gân gyntaf erioed i dreulio blwyddyn gyfan yn y 40 uchaf.
Atebion cywir: 72%
9. Beth oedd yn arbennig am gynhyrchiad o ‘Henry VI’ yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Ionawr eleni?
Ateb: Merched oedd pob un o’r actorion
Menywod yn unig oedd yn y cast ar gyfer cynhyrchiad Omidaze, gan gynnwys seren ‘Casualty’, Suzanne Packer. Drama yn seiliedig ar gyfnod Rhyfel y Rhosod yw hi, ac mae hi’n cylchdroi o amgylch anghydfod a bygythiadau. Nod y cynhyrchiad oedd tynnu sylw at anghydraddoldeb y diwydiant lle mai 30% yn unig o actorion sy’n fenywod, er bod 68% o gynulleidfaoedd theatr yn fenywod.
Atebion cywir: 70%
10. Enillodd cynhyrchiad cwmni Torch o ‘Grav’ wobr Theatr Cymru eleni. Pwy fu’n chwarae rhan Ray Gravell?
Ateb: Gareth Bale
Mae’n syndod cynifer ohonoch chi a gafodd eich twyllo gan y cwestiwn hwn. Dim ond 44% ohonoch chi a lwyddodd i ateb yn gywir, gyda 41% ohonoch chi’n mynd am Ben Davies. Cafodd y cynhyrchiad ei wobrwyo ar Ionawr 31 yn dilyn taith lwyddiannus o amgylch Cymru.
11. Daeth cadarnhad yn ddiweddar y byddai pa gyfres boblogaidd yn dychwelyd i Radio Cymru’r flwyddyn nesaf?
Ateb: C’mon Midffîld
Yn dilyn sefydlu deiseb ar-lein yn galw ar i gast y gyfres gomedi boblogaidd ddod yn ôl at ei gilydd ar gyfer rhaglen neu raglenni Nadoligaidd arbennig, cadarnhaodd John Pierce Jones (Arthur Picton) wrth Golwg360 fod Radio Cymru’n darlledu dwy bennod newydd ym mis Mawrth. Roedd y gyfres ar y radio cyn ei bod hi ar S4C, wrth gwrs, gyda chwmni Nant yn ei throi’n gyfres deledu yn 1988.
Atebion cywir: 73%
12. Pa wobr enillodd Siân Grigg eleni am ei gwaith ar y ffilm ‘The Revenant’?
Ateb: Gwobr Siân Phillips
Aeth y rhan fwyaf ohonoch chi am ‘Oscar’ (54%) wrth ateb y cwestiwn hwn, gyda dim ond 24% yn ateb yn gywir. Artist coluro o Gaerdydd yw Siân Grigg, a chafodd gydnabyddiaeth gan BAFTA Cymru am ei gwaith ar y ffilm oedd yn serennu Leonardo di Caprio. Nid dyma’r tro cyntaf iddi gydweithio â’r seren Hollywood, fodd bynnag. Hi, hefyd, oedd yn gyfrifol am ei golur ar ei ffilm enwocaf, ‘Titanic’.
Un rownd fach arall ar ôl. Cewch yr atebion i rownd Prydain nesaf.