Llong fferi y Starlite Atlantic (Llun o fideo YouTube JkeXChQa411 CCA3.0)
Mae achubwyr yn chwilio am 18 o forwyr sydd ar goll wedi i’w llong suddo yn y teiffŵn yn ynysoedd y Ffilipinau.

Mae un aelod o’r criw eisoes wedi marw a 14 arall wedi eu hachub ar ôl i long fferi geir y Starlite Atlantic suddo yn oriau mân bore Gŵyl San Steffan.

Roedd y neges ola’ wedi ei derbyn ganddi am chwe munud wedi hanner nos pan oedd yn chwilio am le gwell i gysgodi rhag y storm.

Dosbarthu bwyd

Mae honno wedi lladd chwech o bobol eraill a dinistrio llawer o blanhigfeydd cnau coco yn ardal Virac, lle’r oedd ar ei gwaetha’.

Mae arlywydd y wlad ar ei ffordd i’r ardal heddiw i weld y gwaith o rannu pecynnau bwyd.

Roedd y llon 1497 tunnell yn hwylio’n gyson o borthladd Batangas.