Athro Richard Wyn Jones
Fe fu 2016 yn flwyddyn ryfeddol ar sawl cyfri’, ac fe fu’n flwyddyn anhygoel yn wleidyddol.

Yn y fideo hwn, yr Athro Richard Wyn Jones sy’n dewis y pedwar digwyddiad sy’n sefyll allan ac a fydd yn bwrw cysgod ar 2017 a’r blynyddoedd sydd i ddod.

Yn rhif 1 ar ei restr o ddigwyddiadau, y mae Etholiad y Cynulliad – nid y digwyddiad mwya’ difyr ynddo’i hun, oni bai am fuddugoliaeth bersonol ysgubol Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, yn y Rhondda.

Yn ail, mae’r refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Yn ei sgil, meddai Richard Wyn Jones, fe ddaw newidadau mawr i fywyd cymdeithasol trigolion gwledydd Prydain… yn ogystal â chwestiynau mawr am berthynas cenhedloedd Prydain.

Yn drydydd, mae ethol Donald Trump yn arlywydd yr Unol Daleithiau.

Ac yna, yn bedwerydd, mae’r rhyfel cartre’ yn Syria, a’r modd y mae Bashar al Assad, wedi llwyddo i ymladd y gwrthryfelwyr gyda chefnogaeth Rwsia.

Mae Richard Wyn Jones yn rhannu ei argraffiadau diwedd blwyddyn yn y fideo hwn: