Tywydd stormus yn y Bermo (A Armstrong Smith)
Mae Storm Barbara wedi cyrraedd Cymru erbyn hyn, gyda rhybuddion am wyntoedd hyd at 90 milltir yr awr ac amodau gyrru gwael wrth i bobol ddod adref ar gyfer y Nadolig.
A’r disgwyl yw i law trwm a gwyntoedd cryfion bara drwy’r dydd ar draws Cymru i gyd, ac mae Swyddfa’r Met wedi cyflwyno rhybudd am dywydd difrifol o amser cinio ymlaen.
Eisoes, mae gwyntoedd o bron i 50 milltir yr awr wedi cael eu cofnodi ar arfordir Pen Llŷn.
Yn yr Alban mae disgwyl y tywydd gwaethaf, gyda dros 100 o ysgolion a meithrinfeydd wedi cau yn yr Ucheldiroedd ar ddiwrnod ola’r tymor.
Mae fferis i’r gogledd a’r gorllewin hefyd wedi cael eu canslo, ynghyd â rhai gwasanaethau trenau.
‘Barod’ am lifogydd
Mae cynghorau yng Nghymru yn dweud eu bod yn barod ar gyfer y tywydd mawr, gyda’r Gymdeithas Lywodraeth Leol yn dweud ei fod wedi storio dros filiwn o dunelli o halen i raeanu’r ffyrdd.
Gall bobol ffonio 105, llinell gymorth genedlaethol newydd am ddim, os bydd y tywydd yn effeithio ar eu cyflenwadau trydan.