Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am nifer y staff ym maes gofal iechyd meddwl sy’n medru’r Gymraeg.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â’r nifer fwyaf (533, 30%), ac mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 199 o staff sy’n medru’r Gymraeg (17%).
Fel arall, mae gan bob un o’r byrddau eraill lai na 10% o’u staff yn medru’r Gymraeg.
“Syfrdanol ac yn peri pryder”
Cafodd y ffigurau eu casglu drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac mae pryderon y Gymdeithas wedi’u hamlinellu mewn llythyr at Brif Weithredwr pob un o’r byrddau iechyd.
Yn y llythyr, dywed y Gymdeithas fod y ffigurau’n “syfrdanol ac yn peri pryder”, gan dynnu sylw at y cwynion maen nhw’n eu derbyn am fethiant byrddau iechyd i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.
“Mae’n hynod o bwysig bod cleifion yn medru derbyn triniaeth yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad… yn arbennig gyda materion iechyd meddwl gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses o wella.
“Gall problemau cyfathrebu arwain at ddiagnosis anghywir a chamddealltwriaeth.”
Gofynion y Gymdeithas
Mae’r Gymdeithas yn galw ar y byrddau iechyd i:
* Gadw cofnod o ddewis iaith pob claf gan ddarparu gwasanaeth yn yr iaith honno ym mhob sefyllfa posib;
* Gweithredu’r cynnig rhagweithiol ar bob cyfle drwy ofyn i’r claf ym mha iaith yr hoffent dderbyn gwasanaeth;
* Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i bob aelod o staff;
* Nodi’r Gymraeg yn sgìl wrth hysbysebu swyddi;
* Darparu hyfforddiant i staff ddysgu a datblygu’r Gymraeg, a chynyddu eu hyder i’w defnyddio
* Gosod targedau ac amserlen bendant hir-dymor a byr-dymor i gynyddu nifer y gweithwyr iechyd meddwl Cymraeg, er mwyn cyrraedd sefyllfa lle y mae triniaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i holl ddefnyddwyr y gwasanaethau iechyd meddwl.
Maen nhw hefyd yn gofyn sut mae’r byrddau iechyd yn bwriadu mynd ati i gynyddu nifer y staff sy’n medru’r Gymraeg.