Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Yn ei neges Nadolig mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn ni edrych yn obeithiol at 2017 yn dilyn blwyddyn o bolareiddio a thrais.

Mae Carwyn Jones yn cyfeirio at 2016 fel blwyddyn o “raniadau”, ac mae’n gofyn “inni gamu ymlaen a llunio 2017 fel blwyddyn sy’n ein huno gyda’r bwriad cyffredin o helpu’n gilydd i fyw y bywydau ry’n ni eisiau eu byw, a pharhau i greu Cymru well i bawb.”

Mae’n pwysleisio bod neges “heddwch ac ewyllys da yn arbennig o arwyddocaol eleni” gan gyfeirio at y “rai na fydd yn dathlu’r ŵyl yng nghwmni eu hanwyliaid” flwyddyn yma oherwydd rhyfel cartref Syria.

Caiff gwasanaethau cyhoeddus Cymru eu cymeradwyo am eu “hymroddiad” a’u “hymrwymiad” dros y Nadolig.

“Diolch o waelod calon i’n staff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau brys, y gofalwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed ac yn aberthu eu Nadolig eu hunain i helpu eraill,” meddai.