Mae nifer o sefydliadau ac undebau wedi llofnodi llythyr agored yn galw ar i weithwyr gofal dderbyn y Cyflog Byw o £8.45 yr awr.

Ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif yn derbyn yr isafswm cyflog, sef £7.20 yr awr.

Ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r alwad mae Gofal, Perthyn ac Unsain Cymru.

Dywed y llythyr fod “Dydd Nadolig yn ddiwrnod gwaith i ofalwyr a gweithwyr cymorth” ac y byddan nhw’n “cynig cefnogaeth a gofal i bobol fregus yn eu cartrefi eu hunain ac mewn canolfannau preswyl”.

Byddan nhw’n sicrhau bod pobol fregus yn “cael eu trin ag urddas… Nid yn unig maen nhw’n haeddu ein canmoliaeth ni, ond cyfraddau cyflog ac amodau gwasanaeth teg.”

Parch

Maen nhw’n mynegi pryder nad oes digon o arian gan wasanaethau gofal i gynnig mwy na’r isafswm cyflog i’w gweithwyr, a bod gwasanaethau dan bwysau i leihau’r tâl am oriau anghymdeithasol a budd-daliadau salwch.

“Ni all fod yn briodol tanseilio’r gwaith hanfodol mae gweithwyr gofal yn ei wneud yn y modd hwn.

“Rhaid i gynghorau ddarparu digon o arian i’r sefydliadau hyn er mwyn sicrhau parch at weithwyr yn y gweithle, ynghyd ag ansawdd y gofal i ddefnyddwyr gwasanaethau.

“Ni ddylai fod yn ddewis rhwng gwneud un peth neu’r llall. Efallai bod gweithwyr yn gweithio i elusen, ond nid elusen mohonyn nhw.”