Lynford Brewster (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 90 o flynyddoedd am lofruddio Lynford Brewster.
Cafwyd Dwayne Edgar, 29 o Lanedeyrn, Jake Whelan, 24 o Gaerdydd, a Robert Lainsbury, 23 o Gaerwrangon, yn euog o lofruddio Lynford Brewster yng ngolau ddydd ym mis Mehefin.
Cafodd Jake Whelan garchar am 32 o flynyddoedd, Robert Lainsbury 30 o flynyddoedd a Dwayne Edgar 28 o flynyddoedd.
Cafodd y tri eu dedfrydu ar y diwrnod y byddai Lynford Brewster wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel “mab, partner a brawd cariadus”, ac fe ddywedon nhw y byddai “wedi dotio” at ei ferch fach oedd wedi’i geni ar ôl ei farwolaeth.
Dywedodd ei deulu ei fod e wedi cael ei lofruddio mewn modd “ciaidd” ynghanol ystad o dai, a bod y profiad o wrando mewn llys ar yr hyn roedd y tri wedi’i wneud iddo’n brofiad “anodd eithriadol”.
Diolchodd y teulu i’w cymdogion, y tystion, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu De Cymru.
Talodd yr heddlu deyrnged i’r “ysbryd o gymuned” yn Llanedeyrn, ac i’r teulu am eu “hurddas” drwy gydol yr achos.