Y ddiweddar Georgina Symonds (Llun: Heddlu Gwent)
Mae’r datblygwr tai, Peter Morgan, wedi’i gael yn euog yn Llys y Goron Casnewydd o lofruddio’i gariad Georgina Symonds.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Garnham wrth y rheithgor y byddai’n derbyn rheithfarn mwyafrif gydag o leiaf 10 yn cytuno.
Mae’r rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd wedi bod yn ystyried eu dyfarniad ers dydd Gwener.
Dywedodd y barnwr wrthyn nhw: “yn amgylchiadau arbennig yr achos hwn dim ond dwy reithfarn sydd ar gael i chi – euog o lofruddiaeth neu’n ddieuog o lofruddiaeth ond euog o ddynladdiad.
Y cefndir
Roedd y miliwnydd, Peter Morgan, wedi cyfaddef iddo ladd Georgina Symonds, 25 oed, ond yn gwadu ei llofruddio, ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll ac wedi colli rheolaeth.
Cafodd y ferch ei thagu i farwolaeth mewn byngalo oedd yn eiddo i Peter Morgan yn Llanfarthyn, Casnewydd ar Ionawr 12.
Clywodd y llys fod Peter Morgan o Lanelen wedi prynu anrhegion drud ac wedi talu £10,000 y mis i Georgina Symonds am ei chwmni.
Clywodd y llys hefyd ei fod wedi plannu dyfais gwrando cudd yn ei chartref, ac wedi clywed y ferch yn sôn am ei chynlluniau i’w adael ond i barhau i gymryd ei arian.