Edward Benson (Llun: golwg360)
Mae siaradwr brodorol ola’ iaith yr ‘Indiaid Cymraeg’ wedi marw.
Fe gafodd gwylnos ei chynnal o amgylch arch Edward Benson yn nhref Twin Buttes ar warchodfa Fort Berthold yng Ngogledd Dakota ynghynt y mis yma.
Gyda dim ond ychydig ddysgwyr yn gallu siarad ychydig ohoni, mae gweddillion llwyth y Mandaniaid yn poeni fod iaith arall wedi diflannu am byth.
Honno hefyd yw’r iaith a gynhaliodd y chwedl mai’r Tywysog Madog o Gymru a ‘ddaeth o hyd’ i America ac a ysbrydolodd Gymro ifanc i deithio miloedd o filltiroedd 225 o flynyddoedd yn ôl i chwilio am ‘Indiaid Cymraeg’.
‘Y byd yn crebachu’
“Mae’r byd yr ydyn ni’n byw ynddo’n crebachu. Yr iaith yw’r ffordd y mae’r Mandan yn gweld y byd,” meddai Cory Spotted Bear, un o’r Tri Llwyth sy’n cynnwys y Mandaniaid ac un sydd wedi dysgu rhywfaint o’r iaith ac yn ceisio cadw cofnod ohoni.
Ac fe ddywedodd wrth y papur lleol, Rapid City Journal, mai ar hap y daeth y ffarmwr cyffredin yn llefarydd ar ran ei ddiwylliant, gan ennill gradd doethuriaeth er anrhydedd am ei waith.
“Wnaeth e erioed ofyn i fod yn athro’r iaith; cael ei alw wnaeth e. Ffarmwr syml oedd e yn y bôn.”
‘Tristwch yn y llygaid’
Roedd y newyddiadurwr, Dylan Iorwerth, wedi cyfarfod ag Edward Benson wrth ffilmio un o raglenni’r gyfres Dylan ar Daith i S4C ac mae’n cofio’r tristwch yn llygaid yr hen ŵr wrth gofio fel yr oedd diwylliant ei lwyth wedi ei ddinistrio.
Rai blynyddoedd ar ôl i John Evans o Waunfawr dreulio amser gyda’r Mandaniaid yn 1792 – a phenderfynu nad oedden nhw o dras Cymraeg – fe fu mwyafrif y llwyth farw oherwydd y frech wen a ddaeth gyda’r dynion gwyn.
Ganol y ganrif ddiwetha’ fe gafodd gweddillion y llwyth eu clirio o’u tiroedd brodorol er mwyn gwneud lle i lyn – eu Tryweryn anferth nhw – ac fe wasgarodd siaradwyr yr iaith, gan adael Edward Benson.
“Erbyn i ni ei weld, roedd yn byw gyda’i deulu mewn bynglo ar y warchodfa,” meddai Dylan Iorwerth. “Ychydig iawn o olion yr hen fywyd traddodiadol oedd ar ôl – teledu anferth oedd y dodrefnyn mwya’ yn y tŷ.”
Ne bar ôl
“Doedd neb o’i blant yn siarad iaith y Mandaniaid – Nu’eta,” meddai Dylan Iorwerth. “Yn ôl ei ferched, gan fod eu tad yn siarad un iaith frodorol a’u mam un arall, roedden nhw wedi penderfynu bod siarad Saesneg yn haws.
“Ond, yn y bynglo anramantus hwnnw yn ‘Badlands’ Gogledd Dakota, wna i’ fyth anghofio’r olwg yn llygaid Edward Benson na’r tristwch yn ei lais wrth iddo fo ddisgrifio fel yr oedd ei lwyth a’i ddiwylliant wedi cael ei chwalu.
“A dw i’n cofio un sylw yn glir, ac yntau’n sôn am yr unigrwydd o fod yn siaradwr ola’r iaith … heb neb i sgwrsio â nhw ynddi na neb i rannu atgofion.”
Fe ddywedodd ei ferch, Heidi Hernandez, wrth y papur lleol fod ei thad yn y diwedd wedi diffygio.
“Fe ddywedodd ei fod wedi gwneud digon nawr a’i fod wedi blino,” meddai. “Mae’r iaith hon, a wnaeth Dad yn adnabyddus iawn ar draws y byd, dw i’n ofni ei bod wedi mynd.”