Mae heddlu yn yr Almaen yn chwilio am yr un neu fwy o bobol oedd yn gyfrifol am ymosodiad ar farchnad yn Berlin ddydd Llun.
Mae’r heddlu’n credu y gall o leiaf un person fod ar ffo wedi i lori yrru trwy stondinau i ganol pobol yn y farchnad ges Eglwys Goffa Kaiser Wilhelm.
Cafodd deuddeg o bobol eu lladd a 48 eu hanafu yn cynnwys dyn o wlad Pwyl, gyrrwr gwreiddiol y lori a ganfuwyd wedi’i saethu yn y cerbyd.
Cafodd dyn o Bacistan oedd dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiad cael ei rhyddhau gan heddlu ddydd Mawrth gan nid oedd digon o dystiolaeth yn ei erbyn.