Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns (Llun o'i wefan)
Mae gwariant swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar gyfathrebu a swyddogion y wasg wedi cynyddu 64% ers 2010-11.
Cafodd y ffigurau eu datgelu gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb wrth ymateb i gwestiwn gan Aelod Seneddol Llafur yng Nghanol Caerdydd, Jo Stevens yn San Steffan.
Yn y cyfnod dan sylw, fe fu pedwar Ysgrifennydd Gwladol Cymru – Cheryl Gillan, David Jones, Stephen Crabb a deilydd presennol y swydd, Alun Cairns.
Yn 2010-11, £201,848 oedd y cyfanswm, ond fe gynyddodd i £326,146 yn 2012-13, cyn gostwng i £183,271 yn 2013-14.
Fe gynyddodd yn sylweddol yn 2014-15 i £350,637 cyn gostwng ychydig i £330,759 yn 2015-16.