(Llun: S4C)
Mae deiseb wedi’i sefydlu yn galw am un aduniad olaf o gast a chriw cyfres boblogaidd S4C ‘C’mon Midffîld’.

Mae’r ddeiseb ar wefan ipetitions wedi denu 100 o lofnodion ers ddoe.

Ac mae John Pierce Jones, fu’n chwarae rhan Arthur Picton, wedi cadarnhau wrth Golwg360 y bydd dwy bennod arbennig ar Radio Cymru ym mis Mawrth.

Mae sylfaenydd y ddeiseb yn awgrymu pennod Nadoligaidd arbennig ar S4C y flwyddyn nesaf, neu ddwy raglen – y naill ar Noson Nadolig a’r llall ar Ddydd Calan.

Ar ei dudalen Facebook, dywedodd John Pierce Jones, oedd yn chwarae rhan Arthur Picton, ei fod yn croesawu’r syniad ond bod y penderfyniad “yn nwylo S4C”.

Ers i’r ddeiseb gael ei sefydlu, mae John Pierce Jones hefyd wedi rhannu dwy fideo Youtube o’r gyfres – un o’r bennod ‘Tawel Nos’ a’r llall o’r bennod ‘Lladron y Nos’.

Cafodd y gyfres ei chreu yn wreiddiol fel sioe radio i Radio Cymru, a’i throi’n gyfres deledu gan Ffilmiau’r Nant yn 1988.

Enillodd wobr BAFTA Cymru am y Gyfres Ddrama Orau yn 1992, ond daeth i ben yn 1994.

Cafodd pennod Nadoligaidd arbennig, ‘Midffîld a Rasbrijam’ ei darlledu ar Ddydd Nadolig 2004.

Y cast gwreiddiol oedd John Pierce Jones (Arthur Picton), Mei Jones (Wali), Bryn Fôn (Tecs), Llion Williams (George) a Siân Wheldon (Sandra). Gwenno Hodgkins fu’n chwarae rhan Sandra o 1993 i 1994.

‘Reit braf’

Dywedodd John Pierce Jones wrth Golwg360 y bydd ‘C’mon Midffîld’ yn dychwelyd i Radio Cymru am ddwy bennod ym mis Mawrth.

“Mae ’na ryw grŵp trydar a Facebook sy wedi dod at ei gilydd i ddod â C’mon Midffîld ac mae hwnnw wedi’i sefydlu ers ryw flwyddyn neu well.

“Mae rhywun yn teimlo’n reit braf ar ôl clywed bod ei waith o’n cael ei werthfawrogi cymaint.”

Eglurodd fod trafodaethau wedi’u cynnal yn 2004 a bod Mei Jones wedi’i gomisiynu bryd hynny i greu cyfres newydd, ond fod S4C wedi tynnu’r cytundeb yn ôl, gan ddweud y byddai wedi bod yn “gam yn ôl”.