Fe gafodd cyfraniad Wilbert Lloyd Roberts i fyd y theatr yng Nghymru ei gydnabod nos Sul, wrth i ganolfan Pontio ym Mangor ddadorchuddio penddelw mawr ohono wrth un o’r drysau i mewn i’r brif theatr.
Cafodd ymgyrch ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl i sicrhau coffâd i’r arloeswr a sefydlodd Gwmni Theatr Cymru, ac yna Theatr Gwynedd yn 1975.
Artist o Landudno, Nick Elphick sydd wedi mynd ati i greu’r cerflun a gafodd ei ddadorchuddio nos Sul gan Cefin Roberts a dwy o ferched Wilbert.
Roedd rhai o blaid enwi’r theatr yn Pontio ar ôl Wilbert Lloyd Roberts.
Gwyliwch y dadorchuddio, a chael syniad o’r gwaith yn y clip fideo hwn: