Mae paentiad diweddaraf golwr Cymru, Owain Fôn Williams newydd fynd ar werth. Mae’n darlunio llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ffrainc adeg cystadleuaeth Ewro 2016. Ond fel yr eglura wrth Golwg360, ei daid a’i ysbrydolodd i droi o baentio tirluniau i ddod â chymeriadau i’r cynfas…
Un elfen yn unig o waith llaw crefftus Owain Fôn Williams fydd i’w gweld ar gae pêl-droed Kilmarnock y prynhawn yma, wrth i Inverness Caledonian Thistle deithio i Rugby Park yn Uwch Gynghrair yr Alban.
Mae’r elfen arall i’w weld yn ei baentiad diweddaraf sydd wedi cael ei gwblhau’r wythnos hon – a does dim syndod, efallai, mai thema pêl-droed sydd i’r darlun hwnnw. Aeth y golwr o Benygroes yn Nyffryn Nantlle ati i ddal darn bach o hanes ar gynfas yn dilyn haf llwyddiannus i’r tîm cenedlaethol yn Ewro 2016 yn Ffrainc.
Ac yntau’n awyddus i ddal ysbryd y garfan yn dilyn eu llwyddiant, cafodd ei ysbrydoli gan arwyddair ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach’ y Gymdeithas Bêl-droed.
‘Dim slogan rhad’
Dywedodd Owain Fôn Williams wrth Golwg360: “Be o’n i’n methu cael rownd yn fy mhen oedd fod Cymru wedi gwneud mor dda.
“Ar ôl hyn, dyma fi’n prynu cynfas ac yn mynd ati i gynllunio sut fyswn i’n gallu rhoi’r teimladau yma, nid yn unig rhai fi ond yr hogia i gyd, a trio dangos hynna ar gynfas.
“Slogan Cymru ydi ‘Together Stronger’ a dyna’n union oedd y llun yma’n dangos. Nid yn unig hynny, ond o’dd yr hogia a’r merchaid efo’i gilydd. Doedd o ddim yn slogan rhad oedd yn golygu dim.
“O’dd yr holl amser fuon ni yno fel fideo yn fy mhen i’n chwarae drosodd a throsodd. O’dd Wayne Hennessey a Joe Ledley yn mynnu bo fi’n gwneud llun ohonyn nhw ar ôl yr Ewros.
“O’dd o’n anodd gan fod cymaint o ddigwyddiadau cyffrous. Oeddan ni efo’n gilydd am saith wsnos wedyn o’dd o’n gyfnod hir a chymaint o wahanol adegau fyswn i wedi gallu paentio. Ond oeddwn i’n trio dangos hyn i gyd mewn un cynfas.
“Be nesh i oedd cynllunio rhywbeth oedd yn dangos y cyfnod i gyd yn Ffrainc ar un cynfas. Oedd rhaid iddo fe edrych yn naturiol. Do’n i ddim isio rhywbeth annaturiol oedd ddim yn gwneud sens. O’dd rhaid iddo fo fod yn rhywbeth realistig a dyna dwi’n trio’i gyfleu.”
Paentio cymeriadau
Yr ymdeimlad hwn o undod a’i ddenodd i ddechrau paentio cymeriadau yn y lle cyntaf, ac yntau wedi’i ysbrydoli gan hanes ei daid, Richard Henry Williams, chwarelwr ei filltir sgwâr yn Nyffryn Nantlle. Ysbrydolodd y gwaith hwn un o’i gasgliadau diweddaraf fel arlunydd.
“O’dd o’n bwnc agos iawn i fi fynd ar ei ôl a trio gwneud llunia. Bob amser o’n i’n paentio’r chwarelwyr o’n i’n meddwl am Taid a beth oedd o’n gwneud, a sut fasa fo’n edrych i drio dangos mewn llun yr emosiwn a’r gwaith caled oedd y dynion yma’n ei wneud.”
Yn wahanol i fwrlwm a chyffro Ewro 2016, darlun o fywyd llwm y chwarelwyr sydd yn y casgliad hwn sydd, wrth reswm, yn gofyn am sgiliau arlunio i’r gwrthwyneb.
Fel yr eglura, “Roedd o’n amser llwm, felly dwi’m di iwsio llawer o liwia gan bod hi’n amser reit galed ar y dynion yma’n cloddio am y lechen las.”
Arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol
Bydd ei ddarlun diweddaraf o’i gyd-chwaraewyr yn ffurfio rhan o arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ym mis Mawrth, ond does gan y gôl-geidwad ddim bwriad i gefnu ar y bêl gron am y tro.
“Pêl-droed sy’n dod gynta. Hwnnw ydi ’ngwaith i, a’r ddau beth arall dw i’n gwneud yn fy amser sbâr.
“Os dw i’n ffodus i wneud gyrfa ohoni, grêt, achos mae’n ymddangos bod pobol yn licio ’ngwaith i ac mae’n eu hysbrydoli nhw, yn enwedig un yr Ewros.”
‘Cadw’r meddwl a’r corff yn effro’
Ynghyd â phêl-droed a phaentio, mae Owain Fôn Williams wedi ennill tipyn o enw iddo’i hun fel gitarydd o fri, yn diddanu’r chwaraewyr bob cyfle yn ystod y gystadleuaeth. Mae’r ddau ddiddordeb, meddai, yn cadw’r meddwl a’r corff yn effro.
“Dwi ddim yn un i iste lawr am yn hir. Mae well gen i chwarae’r gitar neu baentio.
“Gan bo fi’n chwarae pêl-droed, mae rhaid i rywun ymlacio a trio rechargio’r batris mewn ffordd ar gyfer y training nesa neu gêm neu beth bynnag.
“Mae chwarae gitar neu baentio’n gweithio’n grêt i fi achos mae’r ymennydd dal yn gweithio ond mae ’nghorff i’n ymlacio gan bo fi’n cael iste lawr. Dyna’r ddau beth sy’n fy niddori pan dw i ddim ar y cae.”
Ond ar ôl cyhoeddi’r darlun diweddaraf hwn, mae’n annhebygol y bydd llawer o amser sbâr gan Owain Fôn Williams, sy’n cyfaddef fod yr ymholiadau’n llifo i mewn eisoes.
“Dydi’r ffôn yma ddim wedi stopio ers dydd Iau [pan ddywedodd ar Twitter ei fod wedi cwblhau’r llun], sydd yn beth da. Dw i wrth fy modd.
“Dw i mor falch bod pobol yn ymateb fel yna iddo fo. Ond dydi rhywun ddim yn cael munud!”