Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cau ymchwiliad i drosedd ryw honedig yng Nghaerfyrddin.
Roedden nhw wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiad honedig ym maes parcio San Pedr y dref yn oriau man y bore yma.
Ond maen nhw’n dweud erbyn hyn nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un, a bod yr ymchwiliad wedi dod i ben.