Mae Cyngor Môn wedi penderfynu gyrru ceblau trydan dan-ddaear er mwyn osgoi gwneud niwed i dwristiaeth.
Yn dilyn ymgynghoriadau’r Grid Cenedlaethol, penderfynodd cynghorwyr ddoed (ddydd Llun) bod angen newid cynlluniau blaenorol a fyddai wedi golygu codi peilonau ar hyd yr Ynys.
Mae twristiaeth yn tua £280 miliwn y flwyddyn i’r economi lleol, meddai Cyngor Môn, a’r gred oedd y byddai llwybr y peilonau yn effeithio’r tirlun.
“Mae perygl y bydd cynlluniau National Grid am fwy o beilonau yn torri asgwrn cefn economaidd Ynys Môn – twristiaeth,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ieuan Williams.
“Fel Cyngor, rydan ni’n sefyll efo pobol Ynys Môn wrth iddyn nhw wrthod peilonau fel ffordd o gario trydan uwchben y ddaear. Fe ddylai’r National Grid roi pobol cyn peilonau.”