Mae un o’r papurau pum punt newydd sy’n werth hyd at £50,000 wedi’i wario mewn caffi yn ne Cymru’r wythnos ddiwetha’.

Mae gan bedwar o’r papurau newydd lun bychan o’r awdur Jane Austen arnyn nhw, ac fe wariodd yr artist Graham Short un o’r papurau yng nghaffi Square Cafe yng Nghoed Duon.

Mae’r tri phapur arall hefyd yn cylchredeg ledled y Deyrnas Unedig gydag un wedi’i wario yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban ac yn Lloegr.

200 mlynedd ers ei marwolaeth

Mae’r llun o Jane Austen yn mesur tua 5mm ac wedi’i osod ger y lluniau o Syr Winston Churchill a Big Ben.

Mae modd gweld ei amlinelliad, ond mae angen microsgop i weld y darlun cyfan.

Mae arbenigwyr celf yn amcangyfrif y gallai’r pum punnoedd hyn fod gwerth hyd at £50,000 ar ôl i gasglwyr dalu miloedd am bapurau gyda rhifau cod arbennig arnynt.

Mae’r artist Graham Short yn ei saithdegau, a phenderfynodd ychwanegu’r lluniau o Jane Austen am ei bod yn 200 mlynedd ers ei marwolaeth yn 2017, a datgelodd y byddai llun ohoni ar y papurau deg punt newydd hefyd.