Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Môn prynhawn yma mae cynghorwyr wedi pleidleisio’n unfrydol dros wrthod cynlluniau’r cwmni National Grid i godi ail res o beilonau ar draws yr ynys.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddydd Gwener, Rhagfyr 16, a bwriad y National Grid ydy codi ail res o beilonau i gysylltu Wylfa Newydd â’r orsaf drydan Pentir yng Ngwynedd.
Mae’r cyngor yn pwyso ar y cwmni i osod y ceblau o dan y ddaear er mwyn cludo’r trydan.
Mae Cynghorwyr a nifer o drigolion lleol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau oherwydd yr effaith ar dirwedd yr ynys.
‘Rhoi pobl cyn peilonau’
Galwodd y Cynghorwyr ar National Grid i roi “pobl cyn peilonau” gan ddadlau mai newid y cynllun presennol yw’r unig ffordd o amddiffyn twristiaeth – sydd â gwerth blynyddol o tua £280 miliwn i’r economi lleol – ac osgoi’r “effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol difrifol eraill” ar gymunedau lleol.
Dywed y Cyngor Sir ei fod mor bryderus am y diffyg gwybodaeth sydd wedi’i ddarparu ar effeithiau tebygol y bydd y llwybr sy’n cael ei ffafrio yn ei gael ar y tirlun a thwristiaeth fel ei fod yn ystyried cynnal ei adolygiad ei hun ar y tanddaearu.
Dywedodd Dr Gwynne Jones: “Nid oes unrhyw dystiolaeth yn y dogfennau ymgynghori a ddarparwyd gan National Grid sy’n ein darbwyllo y gellir cyfiawnhau cysylltiad uwch ben y ddaear na’i fod yn angenrheidiol.
“Mae’r Cyngor yn cefnogi’r safbwyntiau cadarn sydd eisoes wedi eu mynegi gan drigolion Ynys Môn ac felly nid yw ein safbwynt wedi newid, rydym yn parhau i fod o’r farn y dylid tanddaearu’r holl geblau.
“Byddai ail linell uwchben, wrth ymyl neu’n agos iawn i’r llinell bresennol, yn cael effaith sylweddol ar dirlun, economi a lles trigolion Ynys Môn.
“Gan ei bod yn ymddangos bod yr opsiynau cysylltiadau o dan y môr wedi eu diystyru gan National Grid am resymau ariannol a thechnegol, mae’r Cyngor yn ystyried mai’r unig ddewis derbyniol arall yw tanddaearu’r datblygiad newydd yn llawn rhwng Wylfa a Phentir.”
‘Cost yw’r prif ffactor’
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ieuan Williams: “Mae perygl y bydd cynlluniau National Grid am fwy o beilonau yn torri asgwrn cefn economaidd Ynys Môn – twristiaeth. Fel Cyngor, rydym yn sefyll gyda phobl Ynys Môn wrth iddynt wrthod peilonau fel ffordd o gario trydan uwchben y ddaear. Fe ddylai National Grid roi pobl cyn peilonau.
“Rydym hefyd yn bryderus mai cost yw’r prif ffactor sy’n gyrru dewis National Grid am beilonau a’u bod wedi methu â rhoi gwir ystyriaeth i ddewisiadau amgen pwysig eraill. O ganlyniad, byddwn yn gofyn am gyfarfod ar y cyd gydag uwch gynrychiolwyr Ofgem a National Grid er mwyn trafod yr agweddau a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar Brosiect Cyswllt Gogledd Cymru.”
Fe fydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener, a gobaith National Grid ydy cyflwyno cais i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn mis Hydref 2017.