Georgina Symonds (llun: Heddlu Gwent/PA)
Mae llys wedi clywed sut yr oedd miliwnydd, sydd wedi ei gyhuddo o ladd ei gariad, wedi “torri ei galon” ar ôl iddo glywed am ei chynlluniau i’w fygwth â lluniau damniol ohono.
Mi wnaeth Peter Morgan, 54, grogi Georgina Symonds, 25, yn ei thŷ yn Llanfarthyn, Casnewydd ar ôl iddo ddarganfod ei bod hi am ei adael a gweithio i ddynion eraill.
Roedd y tad i ddau o blant wedi talu £10,000 y mis i Georgina Symonds i fod yn gymar personol iddo.
Mi glywodd y llys bod gan Georgina Symonds luniau o Peter Morgan yr oedd hi wedi bygwth dangos i’w wraig ac i’w ferched.
Bygwth dynion eraill
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Casnewydd dywedodd Peter Morgan ei bod hi wedi sôn am fygwth dynion eraill mewn modd tebyg.
Clywodd y llys bod Georgina Symonds wedi llwyddo i gymryd cynilion gwerth £70,000 gan ddyn oedrannus o Cheltenham.
Hefydd cafodd manylion ynglŷn â blacmelio dyn arall yn Nhachwedd 2015 ei gyflwyno i’r llys.
Dyfais clustfeinio
Bu Peter Morgan yn clustfeinio ar Georgina Symonds trwy ddyfais yr oedd wedi gosod yn ei thŷ a dywedodd wrth y Llys ei fod wedi ei chlywed hi’n sôn am ei fygwth ef am arian.
“Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth,” meddai Peter Morgan. “Roeddwn i wedi syfrdanu. Ro’n i wedi torri fy nghalon.
“Mi wnaeth hi ddweud wrtha’i bod ganddi luniau. Ro’n i newydd sylweddoli arwyddocâd beth ddwedodd hi ym mis Tachwedd, mai yswiriant oedd y lluniau.”
Mae Peter Morgan o’r Fenni yn gwadu llofruddio Georgina Symonds ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Mae’r achos yn parhau.