Paul Groom Llun: Heddlu Glannau Mersi/PA
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ar ôl i ddyn, sy’n wreiddiol o Wrecsam, farw wedi ymosodiad yn ardal Lerpwl.

Bu farw Paul Groom, 48 oed, yn yr ysbyty nos Sadwrn, Rhagfyr 10, ar ôl dioddef anafiadau i’w ben yn ystod oriau mân fore dydd Iau.

Cafodd parafeddygon eu galw i’w gartref yn Fazakerley, Lerpwl, fore dydd Sadwrn ond bu farw yn yr ysbyty am 10yh y diwrnod hwnnw.

Mae ditectifs yn credu iddo fod mewn eiddo yn Stanton Crescent, Kirkby, Glannau Mersi pan ddigwyddodd yr ymosodiad yn oriau mân fore dydd Iau.

Mae archwiliad post-mortem yn dangos iddo ddioddef anafiadau i’w ben.

Dywed yr heddlu bod ei deulu, sy’n dod o Wrecsam, wedi’u tristau o glywed am ei farwolaeth.

“Rydym yn credu ei fod wedi bod yn gysylltiedig â ffrwgwd un ai y tu mewn neu du allan i dŷ yn Stanton Crescent, Kirkby yn oriau mân fore dydd Iau.

“Dioddefodd anafiadau sy’n gyson ag ymosodiad ond fe lwyddodd i gyrraedd adref i Fazakerley lle wnaeth ei gyflwr waethygu i’r fath raddau y gwnaeth ffrind alw am ambiwlans ar fore dydd Sadwrn,” meddai’r Ditectif Arolygydd Craig Turner o CID Knowsley.

“Mae angen inni sefydlu beth oedd symudiadau Paul o nos Fercher hyd at fore dydd Sadwrn a dod o hyd i bawb a fu yn ei gwmni.”

Mae’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â CID Knowsley ar 0151 777 6064 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.