Llun: PA
Mae Mesur newydd yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw gyda’r bwriad o newid y system addysg ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan bron i chwarter holl ddysgwyr Cymru â rhyw ffurf o anghenion dysgu ychwanegol rywbryd yn ystod eu haddysg.

Ond, mae’r fframwaith sy’n eu cefnogi’n seiliedig ar fodel gafodd ei gyflwyno 30 mlynedd yn ôl.

Gobaith y mesur newydd fydd diweddaru’r system, gan greu un system i gefnogi plant a phobol ifanc hyd at 25 oed, yn lle’r ddwy system sydd ar waith ar hyn o bryd.

Newid y term 

Mae’r Mesur hefyd yn gwaredu â’r termau ‘Anghenion Addysgol Arbennig’ (AAA) ac ‘Anawsterau/Anableddau Dysgu’ (AAD) gan gyflwyno’r term ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ (ADY) yn lle.

Mae pwyslais hefyd ar gydweithio rhwng asiantaethau, ac maent am i farn disgyblion a rhieni gael lle blaenllaw yn y cynllunio.

‘Carreg filltir’ 

“Y llynedd, 23% yn unig o ddysgwyr ag ADY a lwyddodd i gael 5 TGAU da gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, o’i gymharu â 59% o’r holl ddisgyblion. Rhaid i ni wella ar y sefyllfa hon,” meddai Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

“Dyma garreg filltir bwysig i addysg yng Nghymru sy’n ganlyniad i fisoedd a misoedd o waith gyda’n partneriaid, gan gynnwys athrawon, rhieni, llywodraeth leol, y GIG, a’r trydydd sector,” meddai.

“Mae’n bwysig cofio nad mater ymylol yw hwn; mae’n effeithio ar chwarter yr holl ddysgwyr yng Nghymru a gall y gwelliannau rydym yn eu cynnig yma arwain at ddeilliannau dysgu gwell ar gyfer ein dysgwyr i gyd.”