Mae gwesty newydd dros dro wedi ei sefydlu er mwyn dathlu ‘Blwyddyn Chwedlau Cymru 2017’.
Bydd y gwesty newydd yn ymddangos mewn tri lleoliad “cyfrinachol” ar draws Cymru’r flwyddyn nesaf.
Hafan Epic fydd enw’r gwesty unigryw hwn, gyda chyfle i bobol aros mewn un o wyth caban gwahanol sydd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer y prosiect.
Bydd y gwesty yn cymryd llai na 200 o archebion i aros mewn llety â golygfeydd “trawiadol” o dirwedd Cymru – gyda phob un yn addo “profiad Cymreig unigryw”.
Mae’r cabanau ‘boutique’ hyn wedi’u hysbrydoli gan chwedlau Cymru, fel stori’r Brenin Arthur a hen hanes treftadaeth glo’r Cymoedd.
Cafodd y dyluniadau o’r cabanau eu dewis drwy dendr cystadleuol oedd yn gofyn i benseiri o bob rhan o’r byd i ddylunio unedau glampio ar thema chwedloniaeth, traddodiadau a harddwch Cymru.
Dylunwyr rhyngwladol
O’r enillwyr, dau ddylunydd sy’n dod o Gymru – Timber Design Wales o Aberystwyth sy’n gweithio ar uned glampio ‘Llygad y Ddraig’ a Rural Office for Architecture Ltd o Gastellnewydd Emlyn ar gaban wedi’i ysbrydoli gan het Ladi Gymreig.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Y Gorau o Gymru, Teithiau Cambria a Phenseiri George + Tomos ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru.
“Gyda thri lleoliad anhygoel, rhaglen gyffrous o weithgareddau ac wyth adeilad unigryw, bydd Hafan Epic yn dathlu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig yn ystod 2017 – sef y Flwyddyn Chwedlau,” meddai cyfarwyddwr y Gorau o Gymru, Llion Pughe.
“Mae ein cariad at Gymru a’i hanes wedi bod yn ffynhonnell wych o ysbrydoliaeth i’r prosiect yma, ac edrychwn ymlaen at roi cyfle i’r gwesteion ddeffro i Gymru yn y gwesty glampio dros dro cyntaf yn y wlad.”
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Cymru dros yr Economi a Seilwaith fod strategaeth dwristiaeth Cymru yn nodi’r angen am “llety arbennig o safon uchel ar gyfer ymwelwyr.”
“Mae dyfodiad Hafan Epic, a’r podiau glampio unigryw, yn caniatáu i bobl brofi Cymru mewn ffordd hollol newydd,” ychwanegodd.
“Mae dyfodiad ein gwesty glampio dros dro yn creu’r posibilrwydd ychwanegol o ddenu ymwelwyr o bell ac agos i brofi ein tirwedd a’n treftadaeth anhygoel.”
Y cabanau
Ogof Arthur – ar chwedl y Brenin Arthur
Het Ddu – ar ymgais aflwyddiannus Ffrainc i oresgyn Prydain drwy Abergwaun yn 1797
Caban yn y Coed – ysbrydoli gan fyd natur
Llygad y Ddraig – ar chwedl y ddraig
Y Ddraig Fach – uned fertigol, yn dathlu’r “gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.”
Caban y Glöwr – teyrnged i ddiwydiant glo Cymru
CABAN AWYR – caban i edrych ar y sêr, wedi’i ysbrydoli gan chwedl am Gadair Idris am deithwyr a fyddai’n cysgu dan y sêr, naill ai’n dihuno’n wallgof neu’n feirdd.
Caban Llechi – seiliedig ar un o ddeunyddiau mwya’ enwog Cymru… llechi.