Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi croesawu’r cytundeb rhwng Tata a’r undebau, gan ddweud ei fod yn “gam enfawr” tuag at sicrhau dyfodol tymor hir y diwydiant dur yng Nghymru.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £4 miliwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant; sef yr elfen gyntaf mewn pecyn cymorth ehangach ar gyfer y cwmni.
Bydd y pecyn sgiliau a hyfforddiant yn helpu i sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata yng Nghymru drwy ddatblygu’r staff, drwy wella gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth a thrwy hwyluso’r broses o drosglwyddo’r sgiliau sydd gan y gweithlu aeddfed i’r gweithwyr iau.
“Mae hyn yn newyddion da ar gyfer dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru ac yn hwb enfawr i’r diwydiant,” meddai Carwyn Jones.
“Dw i’n falch o gael cyhoeddi heddiw ein bod yn darparu dros £4 miliwn i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr Tata ac i feithrin eu sgiliau, a’n bod hefyd wedi cymryd camau breision ymlaen o ran diffinio pecyn ehangach o gymorth ar gyfer Tata er mwyn sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn hir ac anodd i weithwyr Tata, eu teuluoedd a chymuned ehangach Port Talbot.”