Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cytundeb sy’n diogelu swyddi gweithwyr dur Tata ym Mhort Talbot, ond maen nhw wedi rhybuddio bod rhaid i Lywodraeth Cymru “barhau i fod yn wyliadwrus”.
Mae’r cytundeb yn golygu bod ffwrneisi Port Talbot yn cael eu cadw am bum mlynedd, ac y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i osgoi diswyddiadau gwirfoddol yn y cyfnod hwnnw.
Mae hefyd yn cynnwys cynllun buddsoddi gwerth £1 biliwn ac ymgynghoriad ar gyflwyno cynllun buddiannau yn hytrach na’r cynllun pensiwn presennol.
Yn dilyn cyfarfodydd, roedd nifer o undebau wedi mynegi pryderon am y cynnig ynghylch y cynllun pensiwn arfaethedig, a fyddai’n ddibynnol ar gyfraniadau o 10% gan y cwmni a 6% gan y gweithwyr.
Fe fu dyfodol y cwmni’n ansicr ers i’r perchnogion gyhoeddi ym mis Mawrth eu bod yn gwerthu’r busnes yng ngwledydd Prydain.
Mae mwy na 4,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi ar y safle ym Mhort Talbot, a miloedd yn rhagor yn Llanelli a Shotton.
‘Darlun llawer mwy positif’
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Aelod Cynulliad De Orllewin Cymru, Suzy Davies, fod y “darlun yn edrych llawer mwy positif” erbyn hyn.
“Y cam nesaf fydd diogelu dyfodol dichonadwy a llewyrchus i ddur Cymru ond er mwyn gwneud hynny, rhaid i ni weld gwleidyddion o bob plaid yn sefyll gyda’i gilydd er mwyn achub cam y diwydiant.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i fod yn wyliadwrus hefyd. Mae angen bodloni’r amodau y mae’n gywir iawn wedi eu gosod ar TATA yn gyfnewid am ei chefnogaeth ariannol ac fel arall, a hynny am y cyfnod llawn y mae’r gefnogaeth yn berthnasol.”
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y newyddion yn “brawf, pan fo pobol yn cydweithio’n gadarnhaol, fod modd cael canlyniadau positif”.
“Fodd bynnag, nid dyma ddiwedd yr hanes ac mae angen gwneud gwaith o hyd er mwyn diogelu dyfodol tymor hir y ffatri ddur hanfodol hon.”