Gwyneth ap Tomos (Llun: Plas Glyn y Weddw)
Bu farw sylfaenydd Oriel Plas Glyn y Weddw, Gwyneth ap Tomos, yn dilyn brwydr hir gyda chanser.
Fe’i ganwyd yng Nghaeathro ger Caernarfon yn 1937 ac roedd yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith fel artist tirluniau a’i meistrolaeth o baentio ag olew.
Bu i Gwyneth ap Tomos a’i gŵr Dafydd achub Plas Glyn y Weddw ger Llanbedrog ym Mhen Llyn rhag mynd yn adfail yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.
Fe wnaethon nhw sefydlu Asiantaeth Gyfeillion i gefnogi’r plas yn 1980 ac mae bellach yn cynnwys 1,200 o aelodau – un o’r asiantaethau mwyaf yng Nghymru i gefnogi arddangosfa neu galeri.
‘Person y bobl’
Roedd Cyfarwyddwr Oriel Plas Glyn y Weddw, Gwyn Jones, yn cofio amdani fel “person y bobol”.
Mewn cyfweliad a’r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru bore ma dywedodd Gwyn Jones: “Roedd dylanwad Gwyneth, a’i gwr Dafydd, yn bellgyrhaeddol. Wnaethon nhw gymryd menter anferth gerbron ar ddiwedd y 70au a rhoi llwyfan i nifer o artistiaid ifanc o bosib fyddai heb gael llwyfan heblaw am eu cyfraniad nhw.
“Roedd pobol yn gwirioni hefo’r cynhesrwydd a’r cariad oedd ganddyn nhw tuag at y plas, a thuag at bobol.”
Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas ei fod yn cofio ei “breuddwyd a’r brwdfrydedd dros y blynydde’”.
Ac fe ddywedodd yr actor Mici Plwm amdani: “Roedd Gwyneth yn ferch annwyl iawn. Fe gyflwynodd hi a Dafydd i mi fyd gwerthfawrogi gwaith a thalent arlunwyr. Roedd croeso cynnes pob amser yn y Glyn ac mi fydd ei gwaith sydd yno yn siŵr o’n cadw mewn cysylltiad”.
Bydd cynhebrwng cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Llun nesaf 12 Rhagfyr, yn gadael Plas Glyn y Weddw am 1yp i’r eglwys ac yna yn ôl i’r Plas. Bydd yr oriel wedi cau o 2pm – 5pm.