Mae dyn o Fro Morgannwg wedi ymddangos o flaen Llys y Siryf Caeredin heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae Kieran Davies, 28 oed, o Ynys y Barri wedi’i gyhuddo ar amheuaeth o lofruddiaeth, bygwth neu ymddygiad difrïol a niwed maleisus mewn ardal o Gaeredin.

Cafodd y dioddefwr, nad sydd wedi’i adnabod yn ffurfiol eto, ei ganfod gan yr heddlu mewn adeilad yn Stryd Alban tua 5.30yb ddyddd Gwener.

Ni wnaeth Kieran Davies ddatgan ple yn ystod y gwrandawiad preifat, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa gyda disgwyl am wrandawiad pellach yr wythnos nesaf.