Sophie Taylor, Llun: Heddlu De Cymru
Mae gyrrwr wedi cyfaddef achosi marwolaeth dynes 22 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Bu farw Sophie Taylor, 22, o Landaf yn dilyn gwrthdrawiad yn oriau man bore dydd Llun, 22 Awst ar ôl i’w char BMW daro bloc o fflatiau yn ardal Adamsdown yn y ddinas.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe blediodd Michael Wheeler, 22, o Ffordd Harlech, Tredelerch, Caerdydd yn euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.
Mae Michael Wheeler hefyd yn gwadu cyhuddiad o dwyll ac o yrru’n beryglus mewn cysylltiad â digwyddiad arall.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn sefyll ei brawf ar 24 Ebrill.
Nid oedd yr ail ddiffynnydd Melissa Pesticcio, 23, wedi cyflwyno ple yn ystod y gwrandawiad ar ôl i’w bargyfreithiwr Christopher Rees awgrymu y byddai’n gwneud cais i’w gollwng o’r achos.
Cafodd Melissa Pesticcio o Lanrhymni, Caerdydd ei rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yn y gwrandawiad nesaf ar 10 Chwefror.
Mae trydydd diffynnydd Lewis Hall, 18, wedi pledio’n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl iddo ddweud ei fod yn teithio yn un o’r ceir fu’n gysylltiedig â’r gwrthdrawiad pan fu farw Sophie Taylor, er nad oedd o mewn gwirionedd.
Cafodd Lewis Hall, o Dremorfa, Caerdydd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 9 Ionawr.