Georgina Symonds (llun: Heddlu Gwent/PA)
Mae Llys y Goron Casnewydd wedi clywed mai lladd ei gariad “oedd yr unig ddewis” i’r miliwnydd o’r Fenni wedi iddo glywed bod y ddynes yn cynllunio i’w flacmelio.

Mae Peter Morgan, 54 oed, yn gwadu llofruddio Georgina Symonds, 25 oed, ar sail cyfrifoldeb lleihaedig.

Cafodd y ferch ei thagu i farwolaeth mewn byngalo oedd yn eiddo i Peter Morgan yn Llanfarthyn, Casnewydd ar Ionawr 12.

Mae’r llys wedi clywed fod Peter Morgan o Lanelen arfer prynu anrhegion drud ac yn talu £10,000 y mis i Georgina Symonds am ei chwmni.

‘Unig ddewis’

Yn Llys y Goron Casnewydd, clywodd y rheithgor fod Peter Morgan wedi clywed sgwrs rhwng Georgina Symonds a’i chariad newydd, Tom Ballinger, a hynny wedi i Peter Morgan osod dyfais gwrando cudd yn ei chartref.

Esboniodd Peter Morgan ei fod wedi clywed y ferch yn sôn am ei chynlluniau i’w adael gan fynd i weithio fel escort yn Llundain ond i barhau i gymryd ei arian.

“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gorfforol yn gallu lladd rhywun i fod yn onest. Dwi’n ei gweld hi’n anodd lladd anifeiliaid. Nid casineb oedd e. Roeddwn i’n ei charu hi. Fe welais i ef fel yr unig ddewis,” meddai Peter Morgan.

Dywedodd hefyd fod y ferch wedi bygwth datgelu wrth ei deulu am sut wnaethon nhw gwrdd ynghyd â dangos llun ohono gydag escort arall yn y cartref teuluol.

Clywodd y llys yn gynharach fod Georgina Symonds wedi beio Peter Morgan am hunanladdiad ei chyn-gariad ym mis Tachwedd 2015.

Mae’r achos yn parhau.