Y Llyfrgell Genedlaethol
Mae heriau’n dal i wynebu Llyfrgell Genedlaethol Cymru a nifer o rheini’n rhai ariannol, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.
“Sefyllfa ariannol” y Llyfrgell Genedlaethol yw’r her fwyaf iddi ar ôl cael tolc o 4.7% yn ei chyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n wynebu “diffyg sicrwydd ynglŷn â chyllid y dyfodol”.
Gyda thân yn yr adeilad yn 2013, beirniadaeth lem ar y cyn-brif-lyfrgellydd, Aled Gruffydd Jones a diswyddiadau staff dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r “trysor cenedlaethol” wedi bod drwy gyfnod anodd.
Yn ôl un o awduron adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, gydag arweinyddiaeth newydd a “gwell”, mae pethau’n edrych yn addawol – ond mae rhwystrau yno hyd.
Mae’r ansicrwydd ariannol yn ei gwneud yn “anodd rhagweld” os bydd mwy o ddiswyddiadau ar y ffordd, yn ôl Huw Lloyd-Davies.
“Mae’r Llyfrgell wedi torri tua 20% o’i staff dros y blynyddoedd diwethaf, heb newid mewn unrhyw ffordd maen nhw’n gwneud y gwaith,” meddai wrth golwg360.
“Ond mae ‘na bendraw i ba raddau gallan nhw barhau i dorri staff a chynnal gwasanaeth yn yr un modd ac mae’r gwasanaeth wedi bod yn y gorffennol.
“Tolc” i forâl staff
“Mae morâl staff wedi cael cryn dolc rhwng 2013 a 2015 er enghraifft, mae hynny mewn ffordd i’w ddisgwyl yn sgil yr holl doriadau sy’n cynyddu baich pobol sydd ar ôl.
“Pan oeddwn i yno ar ddechrau 2016, roedd cryn dipyn o’r sylwadau hyn yn dod nôl atom ni ond hefyd, mi gawson ni argraff bendant bod cyfathrebu oddi mewn i’r Llyfrgell rhwng y tîm rheoli a’r staff wedi gwella lot.
“Mae’r arweinyddiaeth newydd yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth positif.”
Wrth siarad am bryderon bod nifer o staff arbenigol eisoes wedi gadael y Llyfrgell, dywedodd Huw Lloyd-Davies bod angen i’r rheolwyr “gadw llygad ar hynny”.
“Mae ‘na sgiliau arbenigol iawn yn y Llyfrgell ac maen anodd iawn cael pobol yn lle’r rheiny… yn anochel, mae ‘na fwlch yn mynd i godi.”
Y Llyfrgell ‘ddim yr un fath’ ag atyniadau Cadw
Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i uno elfennau masnachol y Llyfrgell Genedlaethol â rhannau o Cadw ac Amgueddfa Cymru, ond fydd cydweithio rhwng y cyrff “ddim yn ateb pob problem”.
“Dydy’r Llyfrgell ddim yr un fath o atyniad â rhai o’r atyniadau sydd dan oruchwyliaeth Cadw neu’r Amgueddfa,” eglura Huw Lloyd-Davies.
“Dydy’r Llyfrgell ddim y math o le fyddwch chi’n mynd â theulu am dro ar brynhawn Sul er enghraifft, jyst i gael pori… mae ‘na wahaniaethau sylweddol rhwng y cyrff.
“Yn sicr, mae codi incwm yn flaenoriaeth gan y Llyfrgell ac os oes ‘na arbenigedd yn rhai o’r cyrff eraill, falle byddai hynny’n beth da ond y cwbl mae’r adroddiad yn ei nodi bod ‘na wahaniaeth yn eu gwasanaethau, yn natur y gynulleidfa.
“Bydden i ddim yn dweud peidiwch gydweithio achos efallai bod ‘na le [i gydweithio], ond dydy cydweithio efallai ddim yn ateb i bob un broblem.
“Mae ‘na heriau ond mae ‘na gyfleoedd hefyd. Y peth i bwysleisio yw bod y Llyfrgell yn drysor cenedlaethol,” ychwanegodd.
“Mae pwrpas y Llyfrgell yn rhan hanfodol o’n diwylliant ni yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mi fyddai rhywun yn gobeithio gweld dyfodol disglair iddi.