Nigeria ar fap Affrica
Mae cyfrifiaduron ail law o Brifysgol Aberystwyth ar fin cael bywyd newydd mewn prifysgol yn Nigeria.
Roedd staff yng Ngholeg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid yn ninas Jos yn Nigeria yn wynebu prinder mewn cyfrifiaduron ar gyfer eu myfyrwyr.
Fe ddaeth eu trafferthion i sylw Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol yn Aberystwyth trwy’r myfyriwr doethuriaeth, Edore Akpokode a fu’n bennaeth ar adran Gyfrifiadureg coleg yn Nigeria cyn dod i Gymru i astudio.
O ganlyniad, cafodd 60 o gyfrifiaduron eu hadnewyddu a’u hallforio i ddinas Lagos, gyda disgwyl iddyn nhw gyrraedd yfory.
Dywedodd yr Athro Chris Price: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu helpu ein ffrindiau yng Ngholeg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid yn Jos. Mae’n wych gweld cyfrifiaduron hyn yn cael eu hailddefnyddio at bwrpas addysgiadol da, yn hytrach na’u hailgylchu, fel y byddai wedi bod yn wir yma yn Aberystwyth.
Dywedodd Edore Akpokode: “Mae’r rhodd o gyfrifiaduron gan Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a hwyluswyd gan yr Athro Chris Price wedi bod yn destun rhyddhad mawr i’m Coleg yn ôl yn Nigeria.
“Roeddem yn wynebu’r posibilrwydd o beidio â chael digon o gyfleusterau ar gyfer y rhaglen sydd newydd ei lansio. Mae’n gam mawr tuag at gryfhau sylfaen ein hisadeiledd ac yr wyf yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau cydweithrediad hir a ffrwythlon rhwng ein sefydliadau addysg uwch.”