Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryser tros fwriad Ysgrifennydd y Gymraeg i ddileu Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth.
O ddarllen llythyr Alun Davies at y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg, mae’n debyg ei fod yn bwriadu cyfuno’r strategaeth a gafodd ei chreu yn 2010 â’r Strategaeth Iaith newydd, i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, sydd dan ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi ysgrifenno ato’n galw am sicrwydd na fydd y penderfyniad yn golygu “llai o graffu a thryloywder” ar berfformiad y Llywodraeth ar addysg cyfrwng Cymraeg.
Wrth gyfuno’r ddwy strategaeth, mae’r mudiad hefyd yn gofyn am sicrwydd y bydd y targedau y Strategaeth Addysg Gymraeg yn cael eu cryfhau a bod y Llywodraeth yn ymwymo i “fuddsoddiad sylweddol” er mwyn “normaleiddio” addysg Gymraeg.
Llythyr Cymdeithas
“Credwn ei bod yn bwysig bod cynllun gweithredu ac atebolrwydd blynyddol ynghylch normaleiddio a thyfu addysg cyfrwng Cymraeg gydag adrodd ar y cynnydd fesul blwyddyn,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Yr hyn sydd ei angen yw amcanion a nodau clir a chyfle amlwg i’r cyhoedd ac eraill graffu ar y cynnydd yn ôl y targedau hynny.”
Dydy Llywodraeth Cymru heb ymateb yn swyddogol eto ond fe ddywedodd llefarydd wrth golwg360, y bydd y Strategaeth Iaith newydd, fydd yn cael ei chyflwyno yn y Gwanwyn, yn cwmpasu’r Strategaeth Addysg Gyfrwng Cymraeg.
Ymateb y Llywodraeth
“Mae gan y gyfundrefn addysg rôl allweddol i’w chwarae i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth, mewn ymateb i golwg360.
“Bydd y Strategaeth Iaith newydd yn adeiladu ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gyfredol ac yn cynnwys targedau ar gyfer ehangu a gwella’r ddarpariaeth.”